Mae ysgol gynradd yn Rhondda Cynon Taf yn dathlu wedi iddi ennill gwobr Clwb Brecwast Gorau Cymru.
Mae staff a disgyblion yn Ysgol Gynradd y Rhigos yn falch iawn o dderbyn y wobr yma. Maen nhw wedi derbyn gwahoddiad i Wobrau Clwb Brecwast Kellogg's yn Llundain ar 21 Mehefin i gasglu eu gwobr a £1,000 tuag at glwb brecwast yr ysgol.
Bellach, mae modd enwebu clybiau brecwast gyfer Gwobrau Clwb Brecwast Kellogg's 2022. Mae cwmni Kellogg's wedi bod yn cefnogi clybiau brecwast ers 1998.
Mae Ysgol Gynradd y Rhigos wedi derbyn cydnabyddiaeth am holl waith caled y staff, teuluoedd a'r disgyblion sydd wedi sicrhau llwyddiant y clwb brecwast.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Ysgol Gynradd y Rhigos
Mae ysgolion cynradd ledled Rhondda Cynon Taf yn cynnal clybiau brecwast mewn partneriaeth â Gwasanaethau Arlwyo'r Cyngor. Mae'r clybiau yn fodd i'r disgyblion ddechrau'r diwrnod mewn ffordd iach cyn cyrraedd yr ystafell ddosbarth. Mae clybiau brecwast yn weithgaredd allgyrsiol sy'n annog presenoldeb a dysgu. Fel arfer, mae'r disgyblion yn cael tost neu rawnfwyd a gwydraid o sudd ffrwythau. Mae'r clybiau hefyd yn darparu ar gyfer disgyblion sydd ag alergeddau neu anghenion deietegol arbennig.
Meddai Gaynor Davies – Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae'r Cyngor yn darparu clybiau brecwast ym mhob un o'i ysgolion cynradd er mwyn sicrhau bod modd i bob plentyn gael brecwast iach am ddim ar ddechrau'r diwrnod ysgol. Mae'r clybiau yma'n sicrhau bod modd i ddisgyblion gyrraedd yr ysgol yn gynnar a chael brecwast maethlon a chyfleoedd i ryngweithio a chyfathrebu gyda'u cyfoedion.
"Mae bwyta brecwast da yn golygu bod y plant yn barod i ddysgu ac yn gallu canolbwyntio ar y cyfleoedd dysgu sydd ar gael iddyn nhw.
"Mae nifer o fuddion yn gysylltiedig â mynychu clybiau brecwast ac rwy'n llongyfarch pawb yn Ysgol Gynradd y Rhigos am eu cyfraniad i glwb brecwast gorau Cymru."
Mae'r Cyngor yn cydnabod pa mor bwysig yw brecwast iach a maethlon i blant ar ddechrau'r diwrnod ysgol. Mae'r ddarpariaeth agored yma'n gwella bwyd a maeth mewn ysgolion ac mae gan bob disgybl a theulu yr un cyfle i fynychu.
Clybiau Brecwast mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf
Mae clybiau brecwast yn arwain at ymddygiad gwell, ac yn darparu cyfleoedd chwarae wedi'u goruchwylio ac amser cymdeithasu, yn gwella llythrennedd ac yn adnodd defnyddiol i rieni neu warcheidwaid sydd angen dechrau gwaith yn gynnar.
Meddai Janet Mundy, Pennaeth Ysgol Gynradd y Rhigos: "Rydyn ni'n falch iawn o dderbyn gwobr Clwb Brecwast Gorau Cymru. Dyma destament i'r holl waith caled ac ymrwymiad sydd eu hangen i gynnal y fenter lwyddiannus yma bob dydd drwy gydol y tymor.
"Hoffwn i hefyd ddiolch i'r rhieni a gwarcheidwaid am sicrhau bod disgyblion yn mynychu'r clwb ac i'r holl aelodau staff sy'n goruchwylio'r sesiynau."
Wedi ei bostio ar 10/05/22