Mae'r Cynghorydd Gareth Hughes wedi'i benodi’n Llywydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Cafodd ei benodi yn ystod 27ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, a gynhaliwyd ddydd Mercher, 25 Mai 2022.
Mae'r Cynghorydd Hughes (Ward Tonypandy) yn olynu Llywydd cyntaf erioed y Cyngor, y Cynghorydd Steve Powderhill (Ward Trefforest). Roedd e'n Llywydd am bedair blynedd, gan gynnwys ei flwyddyn fel Maer Rhondda Cynon Taf.
Cafodd dau Ddirprwy Lywydd eu hethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 25 Mai hefyd, sef y Cynghorydd Sheryl Evans (Ward Aberaman) a'r Cynghorydd Barry Stephens (Ward Llanhari).
Prif rôl y Llywydd yw cyflawni swyddogaethau gweinyddu Cadeirydd y Cyngor. Mae'r Llywydd yn llywyddu cyfarfodydd y Cyngor llawn ac yn sicrhau bod cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.
Bydd Llywydd yn cael ei benodi bob blwyddyn yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor.
Wedi ei bostio ar 27/05/22