Bydd y Cyngor yn cymryd rhan yn ymgyrch flynyddol Wythnos Diogelwch y Ffyrdd sy'n cael ei chynnal gan elusen Brake. Bydd cyfres o weithgareddau'n cael eu cynnal mewn cymunedau ac ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf o 14 Tachwedd.
Bydd Wythnos Diogelwch y Ffyrdd 2022 yn cael ei chynnal rhwng 14 a 20 Tachwedd a'r thema eleni yw 'Ffyrdd Diogel i Bawb'. Bydd yr wythnos yn dod â chymunedau ynghyd er mwyn tynnu sylw at yr hawl sydd gan bawb i fwynhau teithiau diogel ac iach ar ffyrdd diogel.
Mae elusen Brake yn ceisio codi ymwybyddiaeth o feysydd allweddol diogelwch y ffyrdd - gan gynnwys pwysigrwydd cerbydau diogel, peryglon goryrru, yr hierarchaeth o ran defnyddwyr y ffordd a phwysigrwydd cynhwysiant er mwyn cadw pawb yn ddiogel, ni waeth pwy ydyn nhw a sut maen nhw'n teithio.
Bydd Rhondda Cynon Taf unwaith eto yn ymuno â miloedd o ysgolion, sefydliadau a chymunedau ledled y wlad i nodi'r ymgyrch. Mae’r Cyngor a sefydliadau partner wedi trefnu nifer o weithgareddau lleol. Bydd swyddogion Carfan Diogelwch y Ffyrdd yn cymryd rhan yn y canlynol:
- Hyfforddiant Kerbcraft i blant blwyddyn 2 mewn 5 ysgol gynradd - Ysgol Gynradd Tonysguboriau (Tonysguboriau) Ysgol Gynradd Pen-pych (Blaenrhondda) Ysgol Gynradd Llwynypia, Ysgol Gynradd Cilfynydd ac Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain (Tonypandy).
- Achlysur ‘Megadrive’ ar Gampws Coleg y Cymoedd yn Llwynypia, Cwm Rhondda – cyfle i addysgu myfyrwyr sydd o oed cyn gyrru am ystod o bynciau pwysig, gan gynnwys gwybodaeth am ymgyrch 'Y 5 Angheuol', gwybodaeth am yswiriant car a thrwyddedau gyrru.
- Sgwrs ynghylch diogelwch y ffyrdd gyda Grŵp Rainbow Guides, Brynna - bydd y sgwrs yn rhoi cyfle i'r bobl ifainc ennill eu bathodyn diogelwch y ffyrdd.
- Hyfforddiant Beicio (Safon Genedlaethol) yn Ysgol Gynradd Parc Lewis, Trefforest – mae'r hyfforddiant cydnabyddedig hwnyn nodi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i feicio’n ddiogel ac mewn modd cyfrifol. Bydd hyn yn cynnwys tasg ymarferol ar ffordd yn y gymuned leol.
- Sesiwn Pass Plus Cymru gyda gyrwyr ifanc – mae’r cwrs hyfforddi ymarferol hwn wedi'i anelu at yrwyr ifainc sydd wedi llwyddo yn eu prawf gyrru yn ddiweddar, a hynny i wella eu sgiliau a’u helpu i yrru’n fwy diogel. Cynhelir y sesiwn ddydd Mercher, 16 Tachwedd.
- Sesiwn ymyrraeth ‘Cyfnewid Lleoedd’ mewn partneriaeth ag Alun Griffiths (Contractors) Ltd – cyfle i addysgu plant Ysgol Gynradd Llantrisant am y peryglon sy'n gysylltiedig â bod yn agos at gerbyd nwyddau trwm.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rwy'n falch iawn bod gyda ni amserlen llawn gweithgareddau gwahanol i nodi Wythnos Diogelwch y Ffyrdd, mae'r Cyngor wedi cefnogi'r ymgyrch yma ers sawl blwyddyn. Mae ein Carfan Diogelwch y Ffyrdd yn cyflawni gwaith hollbwysig yn ein cymunedau trwy gydol y flwyddyn, trwy weithio gyda sefydliadau partner i wella diogelwch ar ein ffyrdd.
"Mae'n wych ein bod ni'n ymgysylltu â chymaint o bobl ifainc yn ystod yr achlysuron eleni - gan gynnwys yr achlysur hyfforddiant i gerddwyr, Kerbcraft, sy’n cael ei gynnig i ddisgyblion Blwyddyn 2 mewn pum ysgol gynradd, achlysur Megadrive yng Ngholeg y Cymoedd - sy'n targedu'r unigolion hynny fydd yn cychwyn ar eu taith gyrru cyn bo hir, a sesiynau Pass Plus Cymru ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi llwyddo yn eu prawf gyrru."
Wedi ei bostio ar 10/11/22