Skip to main content

Disgyblion RhCT yn mynd i achlysur gwylio Cwpan y Byd arbennig

Rob Page opens Baglan Pitch-3

Bydd disgyblion ifainc o Ysgol Gymunedol y Porth yn y seddi gorau ar gyfer gêm Cwpan y Byd FIFA 2022 heno – fe fyddan nhw’n ei gwylio yn 10 Stryd Downing! 

Bydd Ysgol Gymunedol y Porth yn RhCT yn ymuno â miliynau a fydd yn eistedd o flaen sgriniau teledu am 6:30pm heno i wylio’r ornest rhwng Cymru a Lloegr yng Nghwpan y Byd yn Qatar. Yr unig wahaniaeth yw bydd disgyblion yr ysgol yn gwylio'r gêm yn Stryd Downing. 

Yn gynharach y mis hwn, enwodd rheolwr Cymru,  Rob Page, a aned yn y Rhondda, ei garfan Cwpan y Byd yn y Neuadd Goffa yn ei dref enedigol, Tylorstown. Bu hefyd yn helpu'r Cyngor i agor ei gyfleuster chwaraeon 3G diweddaraf yn swyddogol ar Faes Baglan ym Mhenyrenglyn. 

Cafodd y disgyblion o Ysgol Gymunedol y Porth eu dewis i fynd i'r achlysur VIP yn San Steffan fel yr unig gynrychiolwyr o Gymru ochr yn ochr â phlant eraill o Loegr. 

Dywedodd Yvonne Jones, Pennaeth Ysgol Gymunedol y Porth: “Bydd hwn yn brofiad amser unwaith-ac-am-byth i’n disgyblion. Nid yn unig y byddan nhw’n gwylio Cymru’n cystadlu yn eu twrnamaint Cwpan y Byd cyntaf ers 1958, ond fe fyddan nhw’n gwylio’r gêm hanesyddol hon y tu mewn i Stryd Downing. 

“Roedden ni'n falch iawn o dderbyn y gwahoddiad hwn ac yn gobeithio am fuddugoliaeth heno, a fydd yn gweld Cymru yn camu ymlaen yng Nghwpan y Byd. Anfonwn ein dymuniadau gorau at Rob Page o’r Rhondda a charfan Cymru gyfan.”

 #GorauChwaraeCydChwarae

Wedi ei bostio ar 29/11/2022