Skip to main content

Ymweliad â Chylch Meithrin Dyrys yn YGG Ynyswen gan Jeremy Miles AS

Nant_Dyrys

Ymwelodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru â Chylch Meithrin Dyrys sydd ar bwys YGG Ynyswen yn Nhreorci heddiw. Mae'n ddarparwr gofal plant sefydledig sydd bellach ar safle pwrpasol newydd wedi iddo gael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'n un o naw prosiect gofal plant ar draws Rhondda Cynon Taf sydd wedi elwa o geisiadau llwyddiannus gan y Cyngor am gyllid cyfalaf. 

Mae Cylch Meithrin Nant Dyrys ar dir YGG Ynyswen ers blynyddoedd, roedd eu hadeilad blaenorol angen ei atgyweirio. Mae cyllid wedi caniatáu i'r prosiect adleoli i adeilad newydd, gan gynnig cyfleusterau gwell a gofod tu allan gan gynorthwyo'u nod o gynyddu'r nifer o blant sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Rhondda Uchaf.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Chymunedau: 

Roedd yn wych i weld y cyfleusterau wedi'u hadeiladu'n bwrpasol am y tro cyntaf heddiw, sydd ar bwys safle'r ysgol, ac iddyn nhw'u mynediad eu hunain, ardal chwarae awyr agored a chyfleusterau mae'r staff a phlant yn debygol o fod wrth eu boddau yn yr un modd.

Hoffwn ddiolch staff y Cyngor sydd wedi gweithio mor galed er mwyn sicrhau cyllid ar gyfer y prosiectau yma, hoffwn hefyd ddiolch staff Cylch Meithrin Nant Dyrys am wneud defnyddio'r cyllid i effaith mor wych. Mae'r dyfarniadau "Ardderchog" sydd wedi'u derbyn ym mhob un o'r pedair rhan yn eu harolygiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru (llesiant, gofal a datblygiad, amgylchedd ac arweinyddiaeth a rheolaeth) yn haeddiannol iawn. 

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn llwyddiannus mewn sawl ymgais cyllid cyfalaf sydd wedi cynorthwyo i wella cynlluniau gofal plant ar draws y Sir. Maen nhw i gyd bellach wedi cael eu cwblhau, neu'n agosau at gael eu cwblhau. 

Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • Gofal Flourish Dolau, wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Dolau
  • First Steps Llanhari, wedi'i leoli ar safle Ysgol Llanhari
  • Dragons Tots, wedi'i leoli ar safle Ysgol Gynradd Treorci
  • Cylch Meithrin Abercynon, wedi'i leoli yn YGG Abercynon
  • Cylch Meithrin Evan James, wedi'i leoli yn YGG Evan James
  • Y Celyn, wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Gwauncelyn
  • Little Inspirations Tonyrefail, wedi'i leoli ar safle Ysgol Gymuned Tonyrefail
  • Ysgol Gynradd Cwmlai, wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Cwmlai, agorwyd ym Medi 2022
  • Cylch Meithrin Cwmdar, wedi'i leoli yn YGG Aberdar, agorwyd ym Medi 2022
Wedi ei bostio ar 07/10/22