Skip to main content

Diwrnod ym mywyd – Gyrrwr Lori Ailgylchu

Ydych chi erioed wedi meddwl am y person sy'n casglu eich sbwriel a'ch deunydd ailgylchu a beth mae'n ei wneud yn rhan o'i swydd bob dydd?

Yn ystod wythnos ailgylchu eleni rydyn ni'n edrych ar y bobl go iawn sy'n darparu'r gwasanaeth i gartrefi ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae Gweithiwr/Gyrrwr Ailgylchu Gofal y Strydoedd y Cyngor, Steven Blake, yn dangos i drigolion beth mae e'n ei wneud yn rhan o'i swydd a sut mae modd i ni i gyd helpu i wella cyfraddau ailgylchu.

Dechreuodd Steven Blake, o Gwm Rhondda, weithio i’r Cyngor dros 15 mlynedd yn ôl. Yn wreiddiol roedd wedi’i leoli yn Nhŷ Amgen fel gyrrwr/llwythwr HGV gyda chyfrifoldeb am gasglu eitemau o’r ganolfan ailgylchu yn y gymuned, ac yn ddiweddarach dechreuodd weithio yn ei swydd bresennol fel Gyrrwr Ailgylchu. Mae'r ddwy swydd yma wedi galluogi Steven i weld y ddwy ochr o waith ailgylchu, o'i ddidoli a'i gasglu yn y canolfannau i'w gasglu wrth ymyl y ffordd.

Mae diwrnod Steven yn dechrau am 5.30am ac yntau'n cychwyn er mwyn cyrraedd y depo erbyn 6.50am. Wrth gyrraedd y depo, bydd yn mynd yn syth at ei locer i nôl ei allweddi, cyn archwilio'r lori ailgylchu yn unol â'r drefn ddyddiol, gan archwilio a gwirio'r olew, y teiars, ayyb.

Yn fuan wedyn, bydd Steven a'i garfan yn mynd allan i daclo'r casgliadau ar eu cylchdaith ar gyfer y diwrnod hwnnw.

Mae’r garfan yn teithio ledled y Fwrdeistref Sirol bob dydd i gasglu’r holl eitemau ailgylchadwy. Mae'r rhain yn cynnwys deunydd ailgylchu sych, deunydd ailgylchu gwastraff bwyd, deunydd ailgylchu cewynnau, a deunydd ailgylchu gwastraff gardd. 

Croeshalogi deunyddiau ailgylchu yw un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu Steven. O ganlyniad i hyn, weithiau, bydd raid anfon nifer o'r eitemau ar gyfer tirlenwi. Mae Steven wedi darganfod rhai eitemau annisgwyl iawn ymhlith y bagiau ailgylchu, gan gynnwys ysgarthion dynol a gwastraff bwyd wedi'i gymysgu i gynnwys y bagiau ailgylchu clir. Byddai'r holl eitemau hyn yn halogi'r deunyddiau ailgylchu, ac o ganlyniad byddai’n rhaid anfon cynnwys y bagiau i’w tirlenwi.

Mater mawr arall y mae Steven yn ei wynebu’n ddyddiol yw ceir sydd wedi'u parcio ar gyffyrdd neu sy’n rhwystro mynediad i’r strydoedd – mae modd i hyn achosi oedi wrth gasglu neu arwain at ddamwain.  

Oeddech chi'n gwybod bod trigolion RhCT wedi ailgylchu dros 59,900 tunnell o ddeunydd rhwng Ebrill 2021 ac Ebrill 2022? Y newyddion drwg yw y bu’n rhaid taflu dros 4,220 tunnell ychwanegol gan fod y deunydd wedi'i halogi - byddai hynny wedi arwain at 6.5% yn rhagor o ddeunydd wedi'i ailgylchu. Dyna wastraff o ran ein hymdrech ailgylchu!

Am tua 11.30am bydd y garfan yn teithio i'r ganolfan i ddadlwytho'r deunydd ailgylchu er mwyn iddo gael ei ddidoli.

Ar ôl egwyl ginio gyflym bydd y garfan yn mynd yn ôl allan i barhau â'r gwaith casglu. Mae modd i'r gweithiwr ailgylchu arferol gerdded hyd at 40,000 o gamau (sef 16 milltir) bob dydd wrth gasglu deunydd gwastraff wrth ymyl y ffordd!     

Am 2.45pm bydd Steven a'r garfan yn mynd yn ôl i'r depo i orffen eu shifft.

Mae Steven yn mwynhau ei swydd ac yn ddiolchgar bod carfan dda ganddo. 

“Rwy’n hoffi cwrdd â phobl a gwneud gwahaniaeth", meddai. “Rwy'n ymfalchïo yn fy swydd ac rwy'n ffodus i weithio gyda phobl mor dda. Mae'n wych gan fod y rhan fwyaf o bobl wir yn gwerthfawrogi'r hyn rydyn ni'n ei wneud. Yn ystod cyfnod Covid, roedd yr ymateb gan bobl yn anhygoel.

“Rwy’n gwneud yn siŵr bod fy nheulu’n ailgylchu gan fy mod i'n gweld beth sy’n digwydd i’r eitemau pan nad ydych chi'n gwneud hynny. Un o’r pethau rwy'n ei gasáu fwyaf yw tipio anghyfreithlon. Pan welaf fatresi neu bren wedi'u gadael wrth ymyl y ffordd, mae’n fy ngwylltio gan fod modd mynd â’r rhain i ganolfan ailgylchu am ddim!

“Mae'r amgylchedd yn wirioneddol bwysig i mi ac rwy'n gobeithio y bydd mwy a mwy o breswylwyr a thrigolion yn dechrau ailgylchu. Dyma rywbeth y mae'n rhaid i ni ei wneud er lles cenedlaethau'r dyfodol. Dyma'r swydd orau i mi ei chael hyd yn hyn; mae’r garfan mor gyfeillgar a byddwn i'n argymell y swydd yma i unrhyw un!”

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

“Mae’r carfanau’n gwneud gwaith gwych ledled y Fwrdeistref Sirol bob dydd ac, ynghyd ag ymdrechion enfawr trigolion RhCT, does ryfedd ein bod ni’n cymryd camau cadarnhaol i gyrraedd ein targedau ailgylchu. Serch hyn, yn ystod wythnos ailgylchu eleni pe byddai modd i ni gyd edrych ar yr hyn rydyn ni'n ei roi yn ein bagiau clir a sicrhau bod yr eitemau wedi'u golchi yn ein dŵr llestri sydd dros ben, bydd modd i ni fynd i'r afael â halogiad.

“Mae ailgylchu yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor a bydd yn chwarae rhan ganolog wrth helpu'r Cyngor i gyflawni ei darged o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. Targed ailgylchu nesaf y Cyngor yma gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/2025 fydd 70%. Os gallwn ni gynnal ein cyfradd ailgylchu bresennol a gwella ychydig arni, byddwn ni ar y trywydd cywir i gyflawni hyn gryn dipyn yn gynharach nag y mae angen i ni ei wneud. Y gobaith yw bydd y cyfleusterau niferus sydd gyda ni yn RhCT, gan gynnwys y cyfleuster adennill deunydd ym Mryn Pica, yn ein helpu i ragori ar darged y Llywodraeth a symud yn nes at ein targed ni o 80% erbyn 2024/25.

“Mae angen cefnogaeth ein trigolion arnon ni i wneud hyn. Rydw i'n gofyn i bawb ailgylchu un peth arall a bod yn effro i'r hyn maen nhw'n ei roi yn y bin. Drwy wneud hyn bydd modd cyrraedd y targed newydd yma a bydd yn dangos i ni sut mae modd i roi newidiadau ar waith yn lleol ein helpu ni i wneud gwahaniaeth yn fyd-eang.”

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff sych, gwastraff bwyd a gwastraff ‘gwyrdd’ i'w hailgylchu bob wythnos AM DDIM i dros 110,000 o gartrefi.

Yn ogystal â darparu gwasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd, mae hefyd gan y Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned.

Cofiwch ddidoli eich deunyddiau i'w hailgylchu yn ddeunyddiau papur, cardfwrdd, gwydr a metel ac ati cyn mynd i'r canolfannau. Bellach, dydyn nhw ddim yn derbyn bagiau ailgylchu cymysg.

Dyma leoliad y canolfannau ailgylchu yn y gymuned yn y Fwrdeistref Sirol:

  • Tŷ Amgen, Llwydcoed, CF44 0BX  
  • Heol y Cymer, Dinas, CF39 9BL
  • Ystad Ddiwydiannol Treherbert, CF42 5HZ
  • Heol y Gogledd, Glynrhedynog, CF43 4RS
  • Ystad Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5TT
  • Canolfan Ailgylchu 100% Llantrisant, CF72 8YT 

Bydd yr holl ganolfannau hyn yn diwallu eich anghenion o ran ailgylchu gwastraff, gan gynnwys nwyddau gwynion, cardfwrdd, dillad, plastig, hen oleuadau, pren, gwydr, metel, olew injan, tiwbiau fflworolau, plastrfwrdd, hen deganau, paent, teiars, hen setiau teledu, batris a llawer yn rhagor, gan gynnwys coed Nadolig.

Mae staff ar gael ym mhob un o'r canolfannau. Byddan nhw'n hapus i roi cyngor i drigolion ar faterion ailgylchu a'u cynorthwyo i gael gwared ar eu deunydd y cartref.

Mae POB canolfan ailgylchu yn y gymuned ar agor bob dydd, o 8am tan 7.30pm (oriau agor yr haf) ac mae modd mynd â fan fach neu ôl-gerbyd i'r canolfannau er mwyn cael gwared ar eitemau. Mae nifer o ganllawiau llym ar waith i bobl sy'n ymweld â'r safleoedd ac mae'n debygol y bydd y rhain yn parhau i fod ar waith am gyfnod arall. Mae rhagor o fanylion ar y wefan: https://www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu.

Yn ogystal â'r canolfannau ailgylchu yn y gymuned, mae hefyd TAIR siop ailddefnyddio ym mhob ardal yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-elái – gydag ychwanegiad diweddar siop y Sied yng nghanol tref Aberdâr. Mae'r tair siop ailddefnyddio 'Y Sied' ar agor NAWR i chi bori trwy'r nwyddau a rhoi'ch eitemau iddyn nhw. 

Dylech chi roi unrhyw hancesi papur, clytiau glanhau neu bersonol, mygydau wyneb, menig neu unrhyw gyfarpar diogelu personol eraill yn rhan o'ch gwastraff bin du - os oes gan unrhyw un yn eich aelwyd symptomau'r Coronafeirws, dylech chi roi'r eitemau yma mewn dau fag a'u rhoi allan ar ôl 72 awr.

Rhaid i ni atgoffa trigolion bod modd iddyn nhw roi nifer diderfyn o fagiau ailgylchu clir i'w casglu wrth ymyl y ffordd ond dim ond 2 fag du neu un bin olwynion (rhaid i'r caead fod ar gau) y mae modd i ni eu casglu. 

Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn RhCT, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter.

Wedi ei bostio ar 20/10/2022