Skip to main content

Tymor newydd a chyffrous yn ein theatrau

Barbara-Dickson

Barbara Dickson

Mae Theatrau RhCT wedi cyhoeddi eu rhaglen newydd ar gyfer yr hydref a'r gaeaf. Mae cynyrchiadau a ffilmiau newydd cyffrous yn dod i Theatr y Colisëwm a Theatr y Parc a’r Dâr, a fydd hefyd yn croesawu'n ôl y panto i'r teulu cyfan! 

Ar ôl dwy flynedd heriol, bydd y theatrau unwaith eto’n llawn synau cerddoriaeth, chwerthin a drama. 

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Mae’n hyfryd cael cynulleidfaoedd yn ôl yn ein theatrau unwaith eto ac rwyf wrth fy modd bod Theatrau RhCT wedi cyhoeddi tymor cyffrous, newydd, llawn dop ac amrywiol at ddant pawb. 

“Mae ein dwy theatr yn lleoedd arbennig, yn llawn hanes a gyda lle arbennig yng nghalon eu cymunedau lleol. Maen nhw'n darparu adloniant yn yr 21ain ganrif, yn union fel pan agoron nhw eu drysau gyntaf yr holl flynyddoedd yn ôl. 

“Mae’n wych bod gyda ni'r lleoliadau yma ar stepen ein drws. Maen nhw'n denu rhai o’r enwau mwyaf yn y diwydiant adloniant, sy’n brawf go iawn o ansawdd uchel ein sioeau.”

Mae Gŵyl Goffa, wedi'i chyflwyno gan y Cyngor ar y cyd â’r Lleng Brydeinig Frenhinol, yn cael ei chynnal yn Theatr y Colisëwm ddydd Sul 6 Tachwedd. Mae cyngerdd y chwedlonol Barbara Dickson yn Theatr y Colisëwm ddydd Gwener 11 Tachwedd, ac mae Wishbone Ash yno ddydd Sul 13 Tachwedd. 

Mae cynhyrchiad Taking Flight Theatre, Road, gan Jim Cartwight, yn Theatr y Parc a'r Dâr ar Fedi 23 a 24 a rhwng Medi 28 i 30. Bydd Ballet Cymru yn camu i lwyfan Treorci ddydd Mawrth 4 Hydref gyda Dream

MaeFrankie's Guys, sy'n dathlu cerddoriaeth Frankie Valli a The Four Seasons, yn canu ddydd Gwener 28 Hydref, gydag An Evening with Mal Pope ddydd Iau 3 Tachwedd. 

Ar ôl panto digidol, llwyddiannus y llynedd, Aladdin, mae Theatrau RhCT hefyd yn falch iawn o gyhoeddi bod eu cynhyrchiad newydd sbon, Jack and the Beanstalk, yn cael ei lwyfannu'n fyw dros yr ŵyl. 

Bydd Jack and the Beanstalk yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr, dydd Gwener 2 Rhagfyr tan ddydd Sul 11 Rhagfyr, ac yn Theatr y Parc a’r Dâr, Treorci, ddydd Gwener 16 Rhagfyr tan ddydd Sadwrn 24 Rhagfyr.  

Yn rhan o amserlen y perfformiadau bydd perfformiad hamddenol ym mhob lleoliad, perfformiad Iaith Arwyddion Prydeinig yn Theatr y Parc a’r Dâr a pherfformiad â disgrifiadau sain yn Theatr y Colisëwm. Mae hyn yn sicrhau bod pawb, waeth beth fo’u hanghenion a’u gallu, yn gallu bod yn rhan o lawenydd gwylio panto byw.   

 Mae prisiau'r tocynnau'r un peth â phrisiau 2018. Mae tocynnau i oedolion yn £16, consesiynau’n £13, a £49 i deulu o bedwar. Bydd hyn yn newyddion da i deuluoedd sy’n cynllunio eu dathliadau Nadolig eleni.   

I gael rhagor o wybodaeth am yr holl gynyrchiadau uchod, ewch i www.rct-theatres.co.uk/cy/. I archebu tocynnau, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444.

Wedi ei bostio ar 07/10/2022