Mae'r Cyngor wedi lansio ymgynghoriad cymunedol sy'n gofyn i drigolion leisio'u barn am y cynigion newydd i gyflwyno mesurau diogelwch y ffyrdd a llwybrau teithio llesol gwell ar Fryn y Goron yn Llanilltud Faerdref.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid sylweddol ar gyfer cynllun Llwybrau Mwy Diogel Yn y Gymuned Maes-y-bryn yn y dyfodol. Bydd yn datblygu a chyflwyno mesurau ar hyd Bryn y Goron, gan gynnwys gwelliannau i gyfleusterau presennol i gerddwyr. Mae'r cynllun wedi'i gynnig mewn ardal lle mae nifer o ddisgyblion a theuluoedd yn croesi'r brif ffordd wrth gerdded i'r ysgol gynradd leol.
Mae'r cynigion ar gyfer y cynllun yn cynnwys cyflwyno croesfan sebra wedi'i chodi ger cyffordd Bryn y Goron â Llys Ochr y Bryn, ynghyd â mesurau arafu traffig ychwanegol.
Mae trigolion sy'n byw yn lleol wedi derbyn llythyrau sy’n amlinellu'r cynigion ac yn gofyn am eu hadborth. Mae modd gweld y cynlluniau'n llawn yn adran 'Ymgynghoriadau Traffig' ar wefan y Cyngor.
Mae'r ymgynghoriad bellach yn mynd rhagddo, ac mae’n dod i ben ddydd Gwener, 11 Tachwedd. Bydd yr holl adborth sy'n dod i law yn cael ei ystyried a bydd yn llywio dyluniad y cynllun.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Rwy'n croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru drwy eu cyllid ar gyfer Llwybrau Mwy Diogel Yn y Gymuned. Yn ddiweddar, mae wedi helpu i ddarparu cynlluniau diogelwch y ffyrdd wedi'u targedu yng nghymunedau Llwynypia ag Abercynon ddwy flynedd yn ôl, yn Llantrisant a Chilfynydd y llynedd, ac yn fwyaf diweddar yn Nhon Pentre. Rwy’n falch bod 90% o gyllid y prosiect wedi'i sicrhau ar gyfer cynllun yn y dyfodol yn Llanilltud Faerdref.
“Mae swyddogion wedi cyflwyno cynigion allweddol sy'n targedu gwelliannau diogelwch y ffyrdd a chyfleusterau teithio llesol gwell ar hyd Bryn y Goron, gan gynnwys man croesi ffurfiol wedi'i godi. Mae hyn mewn man prysur lle mae cerddwyr yn tueddu i groesi'r brif ffordd – yn enwedig teuluoedd sy'n cerdded yn ôl ac ymlaen o Ysgol Gynradd Maes-y-bryn. Nod yr ymgynghoriad yw ceisio barn y trigolion am y cynigion penodol.
“Dyma gyfle pwysig i drigolion yn Llanilltud Faerdref ddweud eu dweud a llunio'r prosiect yma sydd i ddod. Rwy'n erfyn ar bob trigolyn lleol sydd â diddordeb i leisio'u barn yn y broses ymgynghori sy'n para tair wythnos ac yn dod i ben ar 11 Tachwedd.”
Wedi ei bostio ar 26/10/2022