Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd yn darparu Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd newydd yng nghymunedau Graig a Phen-y-graig. Byddan nhw’n cael eu hadeiladu yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn newydd, gan wella'r cyfleoedd chwarae awyr agored yn y ddwy ardal.
Bydd y ddau gyfleuster awyr agored newydd, sef Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd, wedi'u lleoli ym Mharc Pen-y-graig a Heol Albert/Teras Maritime yn ardal Graig, Pontypridd. Maen nhw'n cael eu hariannu drwy fuddsoddiad gwerth £200,000 gan Raglen Gyfalaf y Cyngor yn 2022/23, a bydd y ddau gyfleuster ar gael i’r gymuned eu defnyddio.
Mae'n debygol y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn y ddau leoliad yn ystod mis Chwefror 2023, i'w gwblhau yn ystod mis Mawrth 2023 (yn amodol ar dywydd braf). Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod am fanylion y trefniadau adeiladu maes o law.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Rydw i'n falch bod y Cyngor wedi penderfynu buddsoddi mewn Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd ar gyfer Graig a Phen-y-graig, a hynny yn ystod y flwyddyn ariannol yma. Mae Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd yn gyfleusterau poblogaidd ymhlith pobl ifainc wrth iddyn nhw fwynhau amryw o wahanol chwaraeon a chyfleoedd chwarae eraill. Fe wnaethon ni hefyd eu cynnwys nhw mewn llawer o'n buddsoddiadau mewn ysgolion o'r radd flaenaf yn ddiweddar.
“Mae gwella cyfleusterau yn y gymuned i'n pobl ifainc yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor, a hynny er mwyn hyrwyddo cadw'n heini yn yr awyr agored, yn ogystal â'r buddion lles a ddaw yn sgil hynny. Yn gynharach yn y flwyddyn, fe wnaeth y Cyngor gyhoeddi ei raglen ddiweddar i wella ardaloedd chwarae i blant ledled y Fwrdeistref Sirol – gyda buddsoddiad gwerth £672,000 ar gyfer 19 o brosiectau adnewyddu'r flwyddyn yma. Mae dros 100 o ardaloedd chwarae wedi cael eu gwella dros y saith blynedd diwethaf, diolch i fuddsoddiad gwerth £4.8 miliwn.
“Bydd gwaith i ddarparu'r Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd newydd ym Mharc Pen-y-graig a Heol Albert/Teras Maritime yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Rydw i'n edrych ymlaen at weld y gwaith yn mynd rhagddo i ddarparu'r cyfleusterau newydd sbon yma er lles y ddwy gymuned.”
Wedi ei bostio ar 28/10/22