*Wythnos Olaf Apêl Siôn Corn 2022!
Dyma ddegfed flwyddyn apêl Siôn Corn y Cyngor, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau miloedd o blant ar Ddydd Nadolig dros y degawd diwethaf.
Mae trigolion, busnesau, elusennau a sefydliadau wedi rhoi miloedd o anrhegion i blant a phobl ifainc na fydden nhw, o bosibl, wedi cael anrheg i'w hagor ar Ddydd Nadolig.
Dim ond diolch i gefnogaeth a haelioni aruthrol y rhai sy'n ein helpu i ddarparu anrhegion y mae hyn yn bosibl. Diolch i'ch haelioni chi, mae pawb yn cael eu cynnwys ar yr adeg arbennig yma o'r flwyddyn.
Mae pob plentyn a pherson ifanc sy'n cael ei nodi gan weithwyr cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf yn derbyn o leiaf un anrheg Nadolig ar 25 Rhagfyr. Mae pob anrheg yn cael ei dewis yn ofalus gennych chi ar gyfer oedran penodol, gan gynnwys tocynnau rhodd ar gyfer y plant hŷn sydd ar restr Siôn Corn!
Eleni, rydyn ni'n gofyn yn garedig, os oes modd i chi wneud hynny, i gefnogi'n hapêl Siôn Corn. Bydd yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i blentyn neu berson ifanc sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf.
Mae cefnogi Apêl Siôn Corn 2022 yn hawdd – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw e-bostio: gwasanaethauigwsmeriaid@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 425025 a rhoi gwybod i gorachod Siôn Corn sawl plentyn hoffech chi brynu anrheg/tocyn rhodd ar ei gyfer.
Yna, fe gewch chi enw ac oedran plentyn. Bydd enw'r plentyn rydych chi'n ei dderbyn yn enw amgen, er mwyn diogelu hunaniaeth y plentyn, ond bydd yr enw yn cynrychioli plentyn go iawn yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'n Llinell Rhoddion Apêl Siôn Corn 2022 ar agor ddydd Mawrth, 25 Hydref. Bydd y llinellau ar agor rhwng 9.30am a 4.30pm o ddydd Mawrth i ddydd Gwener. Y dyddiad olaf i helpu gyda'n hapêl ydy dydd Gwener 2 Rhagfyr. Rhaid i anrhegion ein cyrraedd ni erbyn dydd Gwener, 9 Rhagfyr.
Ar ôl i chi dderbyn enw ac oedran eich plentyn neu berson ifanc, bydd modd i chi fynd â'r anrheg i'ch man casglu agosaf yn y Fwrdeistref Sirol (byddwch chi'n cael gwybod ble mae'r man agosaf i chi). Rhaid i'r holl anrhegion fod mewn bagiau anrheg agored, ac yn eu man casglu, erbyn dydd Gwener, 9 Rhagfyr.
Bydd corachod Siôn Corn y Cyngor yn casglu'r holl anrhegion o'r holl fannau casglu a sicrhau eu bod nhw yng nghartrefi'r plant ar Ddydd Nadolig.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Ers deng mlynedd, mae ein Hapêl Siôn Corn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gynifer o blant a phobl ifainc ar Ddydd Nadolig. Unwaith eto, rydw i'n falch iawn bod modd i ni helpu’r plant a’r bobl ifainc hynny na fyddai, o bosibl, yn agor anrheg fel arall.
“Mae ein Hapêl Siôn Corn yn draddodiad Nadoligaidd. Mae miloedd o anrhegion wedi’u rhoi'n rhodd a’u dosbarthu ledled ein Bwrdeistref Sirol yn ystod y degawd diwethaf. Mae haelioni'n cymuned leol wedi bod yn aruthrol.
"Unwaith yn rhagor, rydyn ni'n gofyn i chi'n cefnogi ni a rhoi beth bynnag y gallwch chi wrth i ni ledaenu ychydig o lawenydd Nadoligaidd a meddwl am eraill yn ystod yr amser arbennig yma o'r flwyddyn. Gyda'n gilydd gallwn ni ddangos ein bod ni'n meddwl am eraill y Nadolig yma."
#ApelSionCorn
Wedi ei bostio ar 28/11/2022