Skip to main content

Ngorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio Pontypridd

remembrance

Dyma wahoddiad i bawb o bob cwr o Rondda Cynon Taf ddod at ei gilydd yng Ngorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio Pontypridd i dalu teyrnged i'r rheiny a wnaeth yr aberth eithaf dros eu gwlad. 

Yn rhan o'r achlysur sy'n cael ei gynnal ddydd Sul 13 Tachwedd ym Mharc Coffa Ynysangharad, bydd gorymdaith trwy'r parc fydd yn cynnwys pobl o bob oed yn cynrychioli sefydliadau cymunedol a milwrol amrywiol. 

Bydd grwpiau Brownis a Sgowtiaid, Cadetiaid, cynrychiolwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol a Chyngor Rhondda Cynon Taf yn ymuno â chyn-filwyr ac aelodau presennol cymuned y Lluoedd Arfog yn yr orymdaith. 

Bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal wrth y gofeb ryfel hefyd. Dyma gyfle i bawb weddïo ac ymuno â dwy funud o dawelwch i fyfyrio a chofio’r rheiny a roddodd eu bywydau i wasanaethu dros eu gwlad. 

Mae Parc Coffa Ynysangharad yn lleoliad addas iawn ar gyfer Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio gan iddo gael ei ailenwi yn 1923 i anrhydeddu'r rheiny a wnaeth yr aberth eithaf. 

Yn y 99 mlynedd ers hynny, mae'r parc wedi bod yn lle i dalu teyrnged ac i gofio. Cafodd Rhestr Gwroniaid y parc ei dadorchuddio yn 2011. Mae'r rhestr yn cynnwys enwau 1319 o bobl ddewr o ardal Pontypridd na fyddant byth yn cael eu hanghofio, gan gynnwys y rheiny a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd, y Falklands, Palestina, Corea a'r Suez. 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Rydyn ni'n parhau i fod yn ddiolchgar am gefnogaeth ein cymunedau ar Sul y Cofio ac yn eu gwahodd nhw i ymuno â ni yn yr achlysur yma yn y parc ar 13 Tachwedd.

“Bydd amrywiaeth eang o wirfoddolwyr yn ymuno â’r orymdaith fel arwydd o barch, a byddan nhw hefyd yn ymuno â ni, a phawb sy’n dod i’r achlysur, i gynnal dwy funud o dawelwch a gweddi wrth y gofeb ryfel.

“Er bod yr achlysur yma'n un i gofio a myfyrio, mae Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio Pontypridd hefyd yn gyfle i ni ddod ynghyd a bod yn gefn i'n gilydd.“

Bydd Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio Pontypridd yn cael eu cynnal yn y parc, gan ddechrau am 10.35am.

 

 

Wedi ei bostio ar 11/11/22