Skip to main content

Y diweddaraf ar y gwaith atgyweirio sylweddol i waliau, Stryd Fawr Llantrisant

Llantrisant High Street wall, progress update

Mae'r Cyngor yn rhoi'r newyddion diweddaraf ynghylch y gwaith i atgyweirio wal gynnal yn Stryd Fawr, Llantrisant. Bydd angen cau'r ffordd yn ystod y dydd (9am-3.30pm) ar ddyddiau'r wythnos yn dechrau o 7 Medi, wrth i'r cynllun ddod i ben.

Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i wneud atgyweiriadau brys angenrheidiol i'r wal fawr ar ôl iddi ddirywio. Mae contractwyr arbenigol yn gweithio i ailadeiladu ac atgyweirio'r strwythur yn rhannol, sy'n broses lafurus ac sydd hefyd yn cael ei chymhlethu oherwydd lled cul y ffordd a strwythurau eraill gerllaw.

Mae system draffig unffordd wedi bod yn ei lle i sicrhau diogelwch, a newidiwyd hon i weithredu tua’r gogledd (i fyny’r allt) o Orffennaf 10. Gwnaethpwyd hyn yn bosibl yn dilyn diwedd tymor arholiadau’r ysgol ac yn dilyn cais gan fusnesau lleol er mwyn gwella mynediad i’r dref.

Diweddariad ar y prosiect ar ddechrau mis Medi 2022

Mae'r gwaith o ailadeiladu'r cerrig wedi mynd rhagddo yn dda, ac mae'r gwaith bron â chyrraedd ei gamau olaf. Y disgwyl yw y bydd y cynllun yn cael ei gwblhau yn gynnar ym mis Hydref 2022.

Bydd y gwaith mawr nesaf ar y safle yn canolbwyntio ar elfen angori wal y cynllun. Bydd hyn yn gweld angorau yn cael eu gosod yn y ddaear y tu ôl i'r strwythur, a'u cysylltu trwy bennau wedi'u gosod ar wyneb y wal. Mae'r gwaith gosod yma yn gofyn am barcio peiriant cloddio mawr ar y ffordd. Mae'r ffordd ar y Stryd Fawr yn rhy gul ar gyfer y peiriant cloddio gan hefyd gadw'r ffordd ar agor yn ddiogel - ac o ganlyniad, mae angen cau'r ffordd yn llwyr.

Cau ffyrdd yn ystod yr wythnos a threfniadau bysiau (o 7 Medi)

Bydd y Stryd Fawr ar gau'n gyfan gwbl rhwng ei chyffyrdd Talbot Road a Commercial Street. Mae llwybr arall ar gael drwy'r Stryd Fawr, Heol-y-Sarn, Ffordd Fynediad Parc Busnes Llantrisant, yr A4119 a Heol Talbot. Bydd hyn yn digwydd o 9am tan 3.30pm bob dydd (dydd Llun i ddydd Gwener yn unig) o ddydd Mercher, Medi 7, nes bod y gwaith wedi’i gwblhau – y disgwyl yw bydd hynny yn yr wythnos yn dechrau Medi 26.

Bydd mynediad i gerddwyr yn parhau yn ystod yr adegau cau, tra bydd mynediad cerbydau i eiddo cyfagos yn parhau'r un fath. Fydd dim mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys.  Y tu allan i'r cyfnodau cau, bydd y system unffordd bresennol ar gyfer cerbydau yn cael ei defnyddio - yn gweithredu tua'r gogledd (i fyny'r allt) yn unig.

Bydd bysiau cludo disgyblion yn parhau i ddefnyddio'r system unffordd cyn ac ar ôl y cyfnodau cau bob bore a phrynhawn.

Ar gyfer defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus, bydd gwasanaethau bysiau lleol yn parhau i ddilyn y system un ffordd y tu allan i'r cyfnodau cau. Yn ystod y cyfnod cau (9am-3.30pm Dydd Llun i Ddydd Gwener), fydd dim modd i wasanaeth Edwards 100 (Pontypridd-Ysbyty Brenhinol Morgannwg) a Gwasanaeth 404 Adventure Travel (Pontypridd-Porthcawl) wasanaethu Hen Dref Llantrisant. Fe fyddan nhw’n teithio o Sgwâr Beddau ar hyd yr A473 a’r A4119 i’r ddau gyfeiriad, er mwyn parhau â’u teithiau.

Bydd gwasanaeth bws gwennol rhad ac am ddim gan Edwards Coaches yn rhedeg rhwng Sgwâr Beddau a Llety Gwarchod Gwaun Rhiwperra o ddydd Llun i ddydd Gwener, i sicrhau bod teithwyr sy'n dymuno parhau â'u teithiau yn gallu gwneud hynny. Mae amserlen lawn y bws gwennol wedi’i chynnwys ar wefan y Cyngor yma.

Fydd dim modd i'r gwasanaeth bws gwennol dwy awr presennol o Orsaf Fysiau Tonysguboriau i Hen Lantrisant yn weithredu am 10am, canol dydd na 2pm oherwydd bod y ffordd ar gau, ond bydd yn parhau i weithredu am 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd Hysbysiadau Cyhoeddus ac Amserlenni'r Bws Gwennol yn cael eu dosbarthu yn yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio.

Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion am eu hamynedd  a'u cydweithrediad parhaus wrth i'r gwaith atgyweirio pwysig ar waliau'r Stryd Fawr ddod i ben.

Wedi ei bostio ar 02/09/22