Mae'r wythnos yma'n nodi Wythnos Dim Gwastraff ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn i'w drigolion edrych ar sut mae modd iddyn nhw fynd yn ddi-wastraff heddiw a phob dydd.
Bob tro y byddwch chi'n gosod eitem yn eich bag gwastraff du, ystyriwch a oes modd rhoi bywyd newydd iddi neu a fyddai modd i chi ddewis opsiwn llai gwastraffus y tro nesaf y byddwch chi'n prynu’r cynnyrch?
Mae Cyngor RhCT yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau ailgylchu wrth ymyl y ffordd, gan gynnwys ailgylchu deunyddiau sych, ailgylchu gwastraff bwyd ac ailgylchu cewynnau - dim ond 20% o wastraff cyffredinol eich cartref y dylech chi fod yn ei roi yn eich gwastraff bag du.
Gyda’n gilydd, gadewch i ni ystyried sut mae modd i ni i gyd leihau ein gwastraff cartref yn gyffredinol – a fyddai modd i ni brynu ffrwythau rhydd a mynd â bag mae modd ei ailddefnyddio i’r archfarchnad? Neu efallai mynd i siop ail-lenwi gyda'n jar goffi wydr wag?
Casglwyd dros 59,900 tunnell o ddeunydd ailgylchu ledled Rhondda Cynon Taf rhwng Ebrill 2021 ac Ebrill 2022, sy’n cynnwys dros 13,300 tunnell o wastraff bwyd – sef dros 18,050 o gerbydau ailgylchu (4 tunnell) yn llawn deunyddiau ailgylchadwy!
Mae bod yn effro wrth siopa yn ffordd bwysig o leihau gwastraff. Cadwch lygad ar yr hyn rydych chi'n ei roi yn eich basged siopa er mwyn ceisio lleihau'ch gwastraff. Mae hyn yn fwy anodd wrth siopa ar-lein, ond bydd y prosesau syml yma'n ein helpu i greu llai o wastraff y cartref yn y pen draw.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Diwylliant:
“Mae ymdrechion trigolion RhCT yn parhau i fod yn anhygoel, ond pe byddai modd i ni dynhau ein gwregysau amgylcheddol, fel petai, dim ond ychydig yn rhagor, byddai modd i ni arbed arian a gobeithio ychydig mwy o dunelli (o wastraff y cartref) yna byddai hynny'n fuddugoliaeth i bawb – nid yn unig ar gyfer RhCT, ond yn fyd-eang wrth i ni i gyd geisio gwneud newidiadau syml i leihau'n biliau wythnosol a'r newid yn yr hinsawdd.
“Mae ailgylchu yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor a bydd yn chwarae rhan ganolog wrth helpu'r Cyngor i gyflawni ei darged o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. Targed ailgylchu nesaf y Cyngor yma gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/2025 fydd 70%. Os gallwn ni gynnal ein cyfradd ailgylchu bresennol a gwella ychydig arni, byddwn ni ar y trywydd iawn i gyflawni hyn gryn dipyn yn gynharach nag y mae angen i ni ei wneud. Y gobaith yw bydd y cyfleusterau niferus sydd gyda ni yn RhCT, gan gynnwys y Cyfleuster Adennill Deunydd ym Mryn Pica, yn ein helpu i ragori ar darged y Llywodraeth a symud yn nes at ein targed o 80% erbyn 2024/25.
“Mae angen cefnogaeth ein trigolion arnon ni i wneud hyn. Rydw i'n gofyn i bawb ailgylchu un peth arall a bod yn effro i'r hyn maen nhw'n ei roi yn y bin. Drwy wneud hyn bydd modd cyrraedd y targed newydd yma a bydd yn dangos i ni sut mae modd i roi newidiadau ar waith yn lleol ein helpu ni i wneud gwahaniaeth yn fyd-eang.”
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff sych, gwastraff bwyd a gwastraff ‘gwyrdd’ i'w ailgylchu bob wythnos AM DDIM i dros 100,000 o gartrefi.
Yn ogystal â darparu gwasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd, mae hefyd gan y Cyngor nifer o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned.
Peidiwch ag anghofio didoli eich deunyddiau i'w hailgylchu yn ddeunyddiau papur, cardfwrdd, gwydr a metel ac ati cyn mynd i'r canolfannau. Bellach, dydyn nhw ddim yn derbyn bagiau ailgylchu cymysg.
Dyma leoliadau Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn y Fwrdeistref Sirol:
- Tŷ Amgen, Llwydcoed, CF44 0BX
- Heol y Cymer, Dinas, CF39 9BL
- Ystad Ddiwydiannol Treherbert, CF42 5HZ
- Heol y Gogledd, Glynrhedynog, CF43 4RS
- Ystad Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5TT
- Canolfan Ailgylchu 100% Llantrisant, CF72 8YT
Bydd yr holl ganolfannau hyn yn diwallu eich anghenion o ran ailgylchu gwastraff, gan gynnwys nwyddau gwynion, cardfwrdd, dillad, plastig, hen oleuadau, pren, gwydr, metel, olew injan, tiwbiau fflworolau, plastrfwrdd, hen deganau, paent, teiars, hen setiau teledu, batris a llawer yn rhagor, gan gynnwys coed Nadolig.
Mae staff ar gael ym mhob un o'r canolfannau. Byddan nhw'n hapus i gynghori trigolion ar faterion ailgylchu a'u cynorthwyo i gael gwared ar eu deunydd y cartref.
Mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ar agor bob dydd, o 8am tan 7.30pm (oriau agor yr haf) ac mae modd mynd â fan fach neu ôl-gerbyd i'r canolfannau er mwyn cael gwared ar eitemau. Mae nifer o ganllawiau llym ar waith i bobl sy'n ymweld â'r safleoedd ac mae'n debygol y bydd y rhain yn parhau i fod ar waith am gyfnod arall. Mae rhagor o fanylion ar https://www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu.
Yn ogystal â'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymunedol, mae hefyd TAIR siop ailddefnyddio wedi'u lleoli ym mhob ardal yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-elái – gydag ychwanegiad diweddar siop y Sied yng nghanol tref Aberdâr. Mae'r tair siop ailddefnyddio 'Y Sied' ar agor NAWR i chi bori trwy’r nwyddau a rhoi’ch eitemau iddyn nhw.
Dylech roi unrhyw hancesi papur, clytiau glanhau neu bersonol, mygydau wyneb, menig neu unrhyw Gyfarpar Diogelu Personol eraill yn rhan o'ch gwastraff bin du - os oes gan unrhyw un yn eich aelwyd symptomau'r Coronafeirws, dylech chi roi'r eitemau yma mewn dau fag a'u rhoi allan ar ôl 72 awr.
Rhaid i ni atgoffa trigolion bod modd iddyn nhw roi nifer diderfyn o fagiau ailgylchu clir i'w casglu wrth ochr y ffordd ond dim ond 2 fag du neu un bin olwynion (rhaid i'r caead fod ar gau) y mae modd i ni eu casglu.
Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn RhCT, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter.
Wedi ei bostio ar 08/09/2022