Skip to main content

Twtio'r A470 ar gyfer y Gwanwyn

Mae un o briffyrdd prysuraf Cymru wedi cael ei glanhau'n llwyr gan garfan Gofal y Strydoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf mewn ymgais i fynd i'r afael â sbwriel ar ochr y ffordd.

Cafodd bron i 400 o fagiau o sbwriel eu casglu ar hyd yr A470 rhwng Ffynnon Taf ac Abercynon yn ystod un o'r sesiynau glanhau achlysurol o'r ffordd boblogaidd.

Mae carfan Gofal y Strydoedd y Cyngor yn treulio cannoedd o oriau ar sesiynau glanhau o'r fath (tua 400 o oriau gwaith), ac mae'n waith peryglus iawn. Hefyd, mae modd i'r garfan achosi aflonyddwch i fodurwyr wrth weithio ar hyd y ffordd fawr brysur yma.

Mae'r briffordd yma tuag at Gaerdydd yn cael ei defnyddio gan filiynau o gymudwyr, ymwelwyr a thrigolion. Yn aml, dyma’r argraff gyntaf y bydd pobl yn ei chael o'r ardal – dyma annog pawb i sicrhau mai argraff dda fydd honno.

Eleni gwariodd y Cyngor dros £25,000 ar yr ymgyrch lanhau yma’n unig gan fod rhaid cau nifer o ffyrdd. Mewn blynyddoedd blaenorol mae'r gwaith wedi cael ei wneud ar yr un pryd â gwaith cynnal a chadw priffyrdd Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA), ond doedd hyn ddim yn bosibl y tro yma. Effaith hyn oedd achosi rhagor o aflonyddwch i fodurwyr. Byddai osgoi hyn i gyd wedi bod yn bosibl pe bai taflwyr y sbwriel ar ochr y ffordd wedi mynd â'u gwastraff nhw adref gyda nhw neu wedi cael gwared ar yr eitemau mewn ffordd gyfrifol.

Yn ystod yr ymgyrch ddiweddaraf, ysgubodd 8 aelod o staff dros 80 tunnell o sbwriel o’r rhan yma o’r ffordd mewn 1 ysgubwr ffordd mawr, 2 gerbyd casglu gwastraff, ac 1 cerbyd 4x4 – roedd hyn yn ogystal â'r 380 sach o sbwriel o’r ymylon.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Mae sbwriel yn faich hyll a diangen, ac mae modd i ni ei osgoi’n hawdd. Dyna pam rydyn ni’n gofyn i bobl gymryd un cam syml tuag at wneud heolydd yn amgylchedd mwy diogel a dymunol i bawb. Byddai modd gwneud defnydd llawer gwell o'r arian a'r adnoddau staff sy'n cael eu defnyddio i symud y cannoedd o sachau sbwriel yma o'r A470. Y cyfan sydd angen i fodurwyr ei wneud yw cadw bag yn eu cerbyd i storio sbwriel, a chael gwared arno mewn modd cyfrifol."

Mae sbwriel ar ymyl yr heol yn hyll ac yn fygythiad i'r amgylchedd a bywyd gwyllt. Mae modd iddo hefyd rwystro draeniau ac achosi llifogydd. Mae clirio sbwriel yn dargyfeirio adnoddau gwerthfawr y Cyngor oddi wrth wasanaethau. Yn ogystal â hynny, mae eitemau sy’n cael eu taflu o gerbydau sy’n symud yn beryglus i ddefnyddwyr eraill yr heol.

Mae'n ymddangos taw prif broblem Rhondda Cynon Taf yw pobl sydd naill ai'n parcio mewn cilfannau ac yn tipio eu gwastraff yn anghyfreithlon, neu'n taflu sbwriel neu fonion sigaréts o'u cerbydau wrth iddyn nhw yrru. Mae hyn yn anghyfreithlon a bydd y rhai sy'n cael eu dal yn cael dirwy o £100 neu ragor. Yn ogystal  â hynny, mae'n bosib bydd rhaid iddyn nhw wynebu achos troseddol yn y pen draw. Mae modd i hyn arwain at filoedd o bunnoedd mewn dirwyon, yn ogystal â chofnod troseddol.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau mae'r carfanau Gofal y Strydoedd ymroddedig yn eu darparu, ffoniwch 01443 425001 neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/glanhaustrydoedd.

Wedi ei bostio ar 20/04/23