Skip to main content

Cynllun gwaith gyda'r nos i sicrhau bod wal gynnal yr A4058 yn ddiogel

A4058 Coedcae Road, wall repairs - Copy

Bydd gwaith pwysig i atgyweirio difrod i wal gynnal fawr wrth ymyl yr A4058, Porth, yn dechrau cyn bo hir. Bydd raid cau un lôn i draffig er mwyn cwblhau prif elfen y gwaith, a dyma gadarnhau y bydd y gwaith yma'n cael ei gynnal gyda'r nos er mwyn lleihau tarfu'n sylweddol ar drigolion a defnyddwyr y ffyrdd.

Mae'r wal gynnal, sydd i'w gweld yn y llun, wrth ymyl yr A4058 Heol Coedcae rhwng ei chyffordd â Heol Llwyncelyn a Stryd y Nant. Mae'r strwythur mawr hefyd yn cynnal Rhes Clifton, y stryd breswyl sydd wedi'i lleoli uwchben.

Mae rhan o'r wal wedi chwyddo'n sylweddol. Mae hyn yn arwydd o ddiffyg sefydlogrwydd yn y strwythur ac mae'n bosibl y bydd yn cwympo. Y gred yw bod hyn wedi digwydd o ganlyniad i nifer o broblemau'n cronni.

Ar hyn o bryd mae bagiau swmp yn helpu i gynnal y wal. Maen nhw wedi'u rhoi yno i gadw'r wal yn sefydlog tra bod y cynllun atgyweirio'n cael ei baratoi. Mae ymchwiliadau tir a gafodd eu cynnal yn flaenorol ar leoliad y safle wedi llywio'r cam yma.

Bydd y gwaith i sefydlogi'r rhan o'r wal dan sylw yn dechrau o ddydd Llun, 18 Awst, a hynny'n amodol ar y Cyngor yn sicrhau hysbysiad Adran 61 perthnasol ar gyfer gweithio gyda'r nos. Bydd gwaith cychwynnol o 18 Awst yn cynnwys sefydlu safle ar gyfer peiriannau/offer a derbyn deunyddiau. Bydd y prif waith yn dechrau o 26 Awst.

Mae Alun Griffiths (Contractors) Ltd wedi'i benodi i gyflawni'r gwaith, a fydd yn cynnwys gosod angorau drwy'r wal gynnal cyn ychwanegu wyneb at flaen y wal. Bydd lled y droedffordd gyfagos ychydig yn llai o ganlyniad i'r gwaith.

Oherwydd lleoliad y wal gynnal ar hyd prif lwybr yr A4058 rhwng Cwm Rhondda a Phontypridd, bydd y contractwr yn cyfyngu  prif waith y cynllun i oriau’r nos rhwng 7.30pm a 6am. Bydd y sifftiau gwaith yma'n dod i rym o ddydd Mawrth 26 Awst.

Yn ystod yr oriau yma, dim ond un lôn fydd ar agor, wedi'i rheoli gan oleuadau traffig dros dro. Bydd y goleuadau traffig yn cael eu symud oddi yno y tu allan i oriau'r gwaith, gan sicrhau nad oes unrhyw darfu yn ystod y dydd. Sylwch, yn dibynnu ar gynnydd, efallai y bydd rhywfaint o waith yn cael ei gynnal ar ddyddiau Sul yn ystod y dydd. Dyma'r opsiwn a fyddai'n tarfu lleiaf er mwyn cyflawni'r gwaith ar amser.

Fydd dim angen mesurau rheoli traffig yn Rhes Clifton ar gyfer unrhyw agwedd ar y gwaith.

Mae'r cynllun yma, a fydd yn cael ei gwblhau ddechrau 2026, wedi'i ariannu drwy Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor ar gyfer 2025/26, yn rhan o ddyraniad gwerth £9.95 miliwn ar gyfer cynlluniau strwythurau amrywiol.

Wrth i'r gwaith yma gael ei gynnal i sicrhau bod y strwythur dan sylw yn ddiogel i'r gymuned, dyma ddiolch i drigolion ymlaen llaw am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 12/08/2025