Bydd y prif waith o ran dymchwel Pont y Castle Inn, Trefforest, yn dechrau ddydd Llun, 24 Ebrill. Bydd y gwaith a fydd yn mynd rhagddo dros yr wythnosau nesaf yn hwyluso'r gwaith o osod pont newydd yn ystod yr haf.
Mae'r bont yn strwythur rhestredig, sy'n croesi'r Afon Taf rhwng Stryd yr Afon yn Nhrefforest a Heol Caerdydd yng Nglyn-taf. Roedd hi'n arfer bod yn gyswllt rhwng y B4595 ar'r A4054 nes iddi gael ei difrodi'n sylweddol gan Storm Ciara a Storm Dennis. Ers hynny, mae hi wedi bod ar gau er diogelwch.
Mae'r Cyngor wedi derbyn Caniatâd Adeilad Rhestredig i ddymchwel y strwythur gan Gyfarwyddiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru, yn dilyn ymgynghoriad agos â Cadw. Cafodd caniatâd cynllunio llawn ei gytuno ar gyfer y prosiect ym mis Mawrth 2022.
Hyd y bont fwa newydd fydd oddeutu 35 metr, a'i lled fydd 3.5 metr. Bydd modd i gerddwyr a beicwyr ei defnyddio hi. Bydd pibell garthffosiaeth Dŵr Cymru yn rhedeg o dan y bont, ac mae gwaith eisoes wedi mynd rhagddo i adnewyddu rhan o wal yr afon ger Heol Caerdydd.
Bwriad y cynllun yw gwella'r mesurau diogelu o ran llifogydd yn y lleoliad yma, a hynny'n sylweddol. Nodwyd bod y bont bresennol wedi achosi llifogydd mawr yn Heol Caerdydd yn ystod Storm Dennis, am ei bod hi i bob pwrpas yn rwystr o fewn yr afon. Bydd y bont newydd, ynghyd â'r newidiadau i lannau'r afon, yn lleihau'r perygl yma o ran llifogydd.
Er bod y difrod yma'n golygu bod angen dymchweld y bont wreiddiol, mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos iawn â Cadw i gydnabod a diogelu treftadaeth ac arwyddocad hanesyddol y strwythur rhestredig. Bydd archeolegwyr yn cymryd rhan yn y broses ddymchwel, er mwyn canfod manylion pwysig am sut y cafodd y bont hanesyddol ei hadeiladu.
Mae dyluniad y bont newydd yn gweddu'r ardal ac yn cyd-fynd â naws y bont wreiddiol. Roedd modd ailddefnyddio rhai darnau o'r hen bont, er enghraifft, bydd rhai o'r cerrig yn cael eu gosod ar waliau'r strwythur newydd. Bydd bwrdd gwybodaeth sy'n egluro hanes y bont wreiddiol hefyd yn cael ei osod ar y safle.
Y gwaith dymchwel o ddydd Llun, 24 Ebrill
Dechreuon ni ar y gwaith paratoi ar gyfer dymchwel y bont yn ddiweddar, gan osod goleuadau traffig ar Heol Caerdydd. Bydd y goleuadau traffig yn aros yn eu lle am saith wythnos tra bod y bont yn cael ei dymchwel o 24 Ebrill ymlaen. Fydd dim angen gosod rhagor o fesurau rheoli traffig.
Bydd cloddiwr mawr cael mynediad i'r bont o'r dwyrain i ddymchwel bwa gorllewinol y bont yn gyntaf. Wedyn, bydd y bwa canol yn cael ei ddymchwel, a'r bwa dwyreiniol yn olaf. Bydd pontŵn yn cael ei godi fel bod modd i'r cloddiwr gael mynediad at wahanol elfennau o'r strwythur. Wedyn, bydd deifwyr yn symud y glanfeydd sy'n weddill i lefel gwely'r afon.
Y prif gyfnod adeiladu yn ddiweddarach eleni
Bydd y gwaith o osod y bont newydd yn dechrau yn yr haf. Mae disgwyl i'r gwaith o adeiladu ategweithiau'r bont ddechrau ym mis Gorffennaf a bydd y gwaith o osod y bont newydd yn dilyn. Bydd angen cau rhan o Heol Caerdydd ger y bont yn ystod gwyliau haf yr ysgol. Bydd elfennau olaf y cynllun, fel gwaith ar y waliau a rhoi wyneb newydd ar Heol Caerdydd, yn digwydd o fis Medi ymlaen.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Dros yr wythnosau nesaf bydd Pont y Castle Inn yn cael ei dymchwel. Mae hyn yn gam arwyddocaol yn y gwaith o ddisodli'r bont. Bydd y prif gam adeiladu wedyn yn dilyn yn ystod misoedd yr haf, a bydd angen cau'r ffordd am gyfnod cyn i'r bont newydd gael ei hagor i’r gymuned yn ddiweddarach eleni.
“Mae’r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i atgyweirio, cynnal a chadw pontydd ac isadeiledd allweddol arall ledled y Fwrdeistref Sirol, a’u diogelu at y dyfodol. Mae £4.45 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer Strwythurau Priffyrdd yn y Rhaglen Gyfalaf ddiweddaraf ar gyfer 2023/24. Mae cynllun Pont y Castle Inn yn rhan o raglen gwerth £20.1 miliwn ar wahân, sy'n canolbwyntio ar effeithiau Storm Dennis. Mae'r Cyngor yn cyflawni'r gwaith, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn rhan o'i ymateb i'r difrod sylweddol a achoswyd gan y storm.
“Mae'r gwaith wedi bod yn gymhleth iawn oherwydd natur y prosiect a statws rhestredig y bont. Roedd angen mynd i'r afael â materion megis caniatâd ar gyfer y gwaith, dargyfeirio cyfleustodau sylweddol, cyfnodau dylunio a chynllunio mawr, a chyfyngiadau amgylcheddol ar gyfer gweithio ar yr afon.
“Er ei bod hi'n amlwg bod angen newid y bont er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd yn sylweddol, rydyn ni'n gweithio’n galed iawn i warchod ei threftadaeth lle bo modd. Mae ein cynllun terfynol wedi cael caniatâd Cadw, a bydd yn cyfrannu'n fawr at gofnod hanesyddol y bont – gyda rhai elfennau o'r strwythur gwreiddiol yn cael eu hailddefnyddio.
“Hoffwn ddiolch i'r trigolion am eu cydweithrediad parhaus wrth i’r gwaith dymchwel ddechrau o ddydd Llun, 24 Ebrill. Does dim angen unrhyw fesurau rheoli traffig ychwanegol ar ben y goleuadau sydd ar waith ar hyn o bryd yn Heol Caerdydd tan wyliau'r haf. Byddwn ni'n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion lleol wrth i gerrig milltir pellach gael eu cyrraedd a byddwn ni'n trafod y trefniadau ar gyfer y prif gyfnod adeiladu maes o law.”
Wedi ei bostio ar 19/04/2023