Skip to main content

Dirwy i ddyn o Aberdâr ar ôl iddo dipio sbwriel!

Mae dyn o Aberdâr wedi dysgu'i wers ar ôl i'w sbwriel cael ei ddarganfod yn Nhrecynon. 

Penderfynodd Mr Jason Edmunds o Stryd Ann, Y Gadlys, dipio sbwriel o'i gartref yn ogystal â hen grud sydd wedi'i dorri ar hyd Y Dramffordd, Gelli Isaf, Trecynon.  

Ar ôl i swyddogion ddal Mr Edmunds, cafodd ei gyfweld dan rybudd o dan Godau Ymarfer Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) 1984 a chyfaddefodd iddo daflu'r gwastraff yn yr union leoliad.  

Dywedodd Mr Edmunds ei fod yn mynd ag unrhyw wastraff sydd dros ben i'w waith a'u rhoi yn y sgip fel arfer, ond y tro yma fe anghofiodd i daflu'r sbwriel yn y sgip tu allan i'w waith. Sylwodd fod y bagiau sbwriel yn drewi yn ei gar, felly wrth gerdded â'i gŵn ar hyd Y Dramffordd, penderfynodd daflu'r bagiau yn y gordyfiant a difetha harddwch yr amgylchedd lleol i'r gymuned ehangach.  

Yn ystod y cyfweliad, roedd swyddogion wedi rhoi gwybod i Mr Edmunds ei fod wedi cyflawni trosedd o dan Adran 22 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ac felly'n derbyn cosb benodedig o £400 am dipio'n anghyfreithlon. Fe gafodd wybod y bydd methu â thalu'r gosb benodedig yn llawn yn arwain at drosglwyddo'r mater yma i'r Llys er mwyn cymryd camau gweithredu pellach. 

Gan i Mr Edmunds fethu â gwneud y taliad ar ôl derbyn nifer o rybuddion, doedd gyda'r Cyngor ddim dewis ond cyfeirio'r mater i Lys Ynadon Merthyr Tudful. 

Yn gynharach yn y mis, cafodd Mr Edmunds ei ddedfrydu’n euog, gan orfod talu cyfanswm o £681.51! Dyna £281.21 yn rhagor na'r gosb benodedig o £400!

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden Rhondda Cynon Taf:

"Dyw tipio'n anghyfreithlon ddim yn cael ei ganiatau, BYTH. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, lonydd, strydoedd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff, a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif. 

"Mae ein carfanau'n gweithio'n galed i gadw ein strydoedd a'n lonydd yn lân, ac ni fydd tipio anghyfreithlon o unrhyw fath yn cael ei oddef." 

"Fel y mae'r achos yma'n ei ddangos, rydyn ni'n ymchwilio i BOB adroddiad am dipio'n anghyfreithlon a byddwn ni'n darganfod yr holl fanylion fel y dysgodd y troseddwr yma. 

"Mae cael gwared ar wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd bob blwyddyn. Dylai'r arian yma fod yn cael ei wario ar wasanaethau allweddol y rheng flaen yn ystod cyfnod pan fo pwysau mawr ar y gyllideb. 

“Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael inni, i ddwyn y rheini sy'n gyfrifol i gyfrif. Mae nifer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu trwy fynd â nhw i'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Mae hefyd modd iddyn nhw gael eu casglu o ymyl y ffordd heb unrhyw gost ychwanegol."

Mae gyda'r Cyngor wasanaeth diderfyn wythnosol ar gyfer casglu eitemau sych, gwastraff bwyd a chewynnau i'w hailgylchu, o ymyl y ffordd. Yn ogystal â hynny, mae gyda'r Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, felly does dim esgus dros dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig tipio'r eitemau hynny y mae modd eu casglu o ymyl y ffordd neu eu hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf. 

Mae modd i chi wirio a oes gan berson neu fusnes drwydded cludo gwastraff ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o Dipio'n Anghyfreithlon, Ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Instagram a TikTok neu ewch i www.rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 06/08/2025