Bydd trydydd cam y gwaith atgyweirio i seilwaith draenio yn Aberpennar yn dechrau yr wythnos nesaf, gan ganolbwyntio ar y Stryd Fawr a Stryd y Clogwyn.
Bydd y cynllun, sydd wedi'i ariannu gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru, yn dechrau ddydd Llun 11 Awst.
Yn rhan o'r gwaith, bydd rhan newydd o bibellau dwbl yn cael ei gosod ar gyffordd Stryd y Clogwyn â’r Stryd Fawr, gan hefyd osod pibell sengl newydd sy'n fwy o ran ei maint er mwyn cynyddu capasiti’r rhwydwaith. Bydd gwaith i ail-leinio'r bibell hefyd yn cael ei gynnal yn y Stryd Fawr.
Yn ystod y gwaith, bydd Stryd y Clogwyn ar gau o'i chyffordd â'r Stryd Fawr am tua 5 diwrnod, rhwng 8am a 5pm. Mae modd gweld map sy'n dangos lleoliad y gwaith yma.
Llwybr Amgen – o ochr orllewinol y ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd Stryd Eva, Stryd Beadon, Bythynnod y Chwarel, Heol y Chwarel a’r Stryd Fawr. O ochr arall y ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd Stryd y Graig, Stryd y Goedwig, Bythynnod y Chwarel, Stryd Beadon, Stryd Eva a Stryd y Clogwyn.
Nodwch y bydd system traffig unffordd dros dro ar waith ar rannau o Heol y Chwarel, Stryd y Goedwig a Bryn y Parc, yn ogystal â gwahardd stopio dros dro ar rannau o Heol y Chwarel, Bythynnod y Chwarel, Stryd Beadon, y Stryd Fawr a Stryd y Goedwig. Mae modd gweld manylion pellach ar wefan y Cyngor.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal gan Garfan Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf gyda'r is-gontractwr Arch Services Ltd.
Mae trydydd cam y gwaith yn Aberpennar yn dilyn ail gam y gwaith a gafodd ei gynnal yn gynharach yn 2025 ar Stryd y Ffrwd, y Stryd Fawr a Stryd Pryce. Cafodd cam cyntaf y gwaith ei gynnal yn 2024, ar Stryd y Buddugwr, Stryd y Clogwyn, Stryd Eva, Stryd y Ffrwd a’r Stryd Fawr.
Mae'r cynllun yn cael ei ariannu drwy Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, gydag arian cyfatebol gwerth 15% gan y Cyngor. Mae'r cynllun yn ei gyfanrwydd yn cynrychioli buddsoddiad cyfunol gwerth dros hanner miliwn o bunnoedd.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am ei chydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 08/08/2025