Skip to main content

Ymgynghori â'r gymuned mewn perthynas â Strategaeth Fuddsoddi ar gyfer Tonypandy

Tonypandy-Town-Centre-FORMAL-Strategy-WELSH

Bydd modd i drigolion leisio eu barn mewn perthynas â fersiwn ddrafft Strategaeth Canol Tref Tonypandy y Cyngor o 11 Awst ymlaen. Gan weithio gyda'r Ardal Gwella Busnes newydd, bydd y strategaeth yn dod yn lasbrint ar gyfer buddsoddiad yng nghanol y dref yn y dyfodol, yn gosod gweledigaeth glir ac uchelgeisiol ar gyfer yr ardal fanwerthu, ac yn cyflwyno cyfres o brosiectau lleol cyffrous.

Wedi iddyn nhw ystyried fersiwn ddrafft y strategaeth yn eu cyfarfod diweddar ar 7 Gorffennaf, cytunodd Aelodau'r Cabinet i'r Cyngor gynnal cam terfynol yr ymgynghoriad ffurfiol â'r cyhoedd. Mae manylion mewn perthynas ag uchelgeisiau craidd y strategaeth, yn ogystal â chyfres o brosiectau posibl yn y dyfodol, wedi'u cynnwys ar waelod yr eitem newyddion yma.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi'i sicrhau er mwyn datblygu'r strategaeth drwy grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi, ac mae'r Cyngor wedi penodi ymgynghorwyr, The Urbanists, er mwyn rhoi cyngor a chymorth wrth ddatblygu’r strategaeth.

Mae'r Cyngor bellach wedi cyhoeddi y bydd cam nesaf y broses ymgynghori ffurfiol â thrigolion yn digwydd rhwng dydd Llun, 11 Awst a dydd Gwener, 3 Hydref.

O 11 Awst ymlaen, bydd tudalen ymgynghori benodol ar-lein yn cael ei chyhoeddi ar wefan ymgysylltu Dewch i Siarad RhCT. Yma, bydd modd i drigolion fwrw golwg ar y strategaeth, cael mynediad at holl ddogfennau'r ymgynghoriad, a chwblhau arolwg ar-lein.

Bydd y garfan ymgynghori - sy'n cynnwys swyddogion y Cyngor a chynrychiolwyr o The Urbanists - yn bresennol yn y farchnad wythnosol bob dydd Gwener yn Nhonypandy ar ddau ddyddiad yn ystod yr ymgynghoriad. Rydyn ni'n annog trigolion i fynychu a lleisio eu barn :

  • Dydd Gwener, 15 Awst - 9am - 2pm.
  • Dydd Gwener, 5 Medi - 9am - 2pm.

Bydd hefyd modd i'r cyhoedd ymweld â stondin arddangos yn Llyfrgell Tonypandy drwy gydol cyfnod yr ymgynghoriad. Yna, bydd modd i drigolion fwrw golwg ar y strategaeth a chwblhau copi papur o'r arolwg, cyn ei roi i aelod o staff. Bydd hefyd modd anfon copïau papur o'r arolwg aton ni drwy'r post yn rhad ac am ddim trwy ddefnyddio’r cyfeiriad canlynol: Rhadbost RUGK-EZZL-ELBH, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Swyddfa'r Pedwerydd Llawr, 2 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn cael ei hyrwyddo yn lleol gan ddefnyddio posteri a thaflenni yn y gymuned, yn ogystal ag ar wefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

Bydd yr holl adborth a gaiff ei dderbyn dros y cyfnod wyth wythnos o hyd yn cael ei gasglu gan swyddogion, ac yn cael ei gynnwys mewn adroddiad i'r Cabinet yn y dyfodol - er mwyn llywio penderfyniad terfynol Aelodau mewn perthynas â’r Cyngor yn mabwysiadu Strategaeth Canol Tref Tonypandy.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Mae'r Cyngor bellach wedi cadarnhau y bydd ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol mewn perthynas â Strategaeth Canol Tref Tonypandy yn cael ei gynnal o ddydd Llun, 11 Awst ymlaen, am gyfnod o tua wyth wythnos. Mae'n dilyn cefnogaeth Aelodau'r Cabinet ar gyfer fersiwn ddrafft y Strategaeth ym mis Gorffennaf, ac yn cyflwyno cyfle pwysig i'r gymuned ddysgu rhagor a lleisio eu barn.

"Mae buddsoddi yng nghanol ein trefi yn addewid allweddol yn rhan o Gynllun Corfforaethol y Cyngor, ac rydyn ni wedi llunio strategaethau tebyg ar gyfer gwella a buddsoddi yn Aberpennar, Porth, Pontypridd ac Aberdâr. Trwy ffurfioli strategaeth ar gyfer Tonypandy, bydd yn caniatáu i bawb yn y gymuned ddod at ei gilydd - er mwyn nodi cryfderau, gwendidau, heriau a chyfleoedd y dref, ac er mwyn cytuno ar nodau ac amcanion a rennir ar gyfer y dyfodol.

"Yn ddiweddar, cafodd Ardal Gwella Busnes arfaethedig Tonypandy ei chymeradwyo drwy bleidlais, a bydd yn cynnwys busnesau a sefydliadau lleol yn cydweithio ac yn arwain y gwaith o ran gwella gwasanaethau ar gyfer y dref. Dyma agwedd gadarnhaol arall - yn ychwanegol at ailddefnyddio hen adeiladau Barclays, y Swyddfa Bost a Banc HSBC ar gyfer Anabelle's Hair and Beauty Salon, RHA/Beacon Cymru, a fflatiau modern hefyd.

"Rydyn ni hefyd wedi gweld prosiect gwerth miliynau o bunnoedd y Big Shed ar hen safle'r Co-op yn nesáu at gael ei gwblhau, a fydd yn cynnig datblygiad manwerthu a phreswyl, yn ogystal ag ailddatblygiad arfaethedig safle Llys Mitchell gan Trivallis ar Sgwâr Tonypandy. Bydd y dref hefyd yn elwa ar wasanaethau trên mwy rheolaidd trwy Fetro De Cymru, a fydd yn gwella mynediad yn sylweddol ar gyfer trigolion ac ymwelwyr Rhondda Cynon Taf.

"Byddwn i'n annog pob trigolyn sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad o 11 Awst ymlaen, er mwyn helpu i lywio'r strategaeth derfynol. Mae modd i chi gymryd rhan drwy fynd i dudalen we a chwblhau arolwg ar-lein, neu wyneb yn wyneb ym Marchnad Tonypandy a Llyfrgell Tonypandy. Mae hyn yn cydymffurfio â Strategaeth Cymryd Rhan newydd y Cyngor y cytunwyd arni yn gynharach eleni, sydd wedi ymrwymo i gynyddu'r nifer o ffyrdd y mae modd i bobl gymryd rhan yn ein hymarferion ymgynghori."

Cynhaliodd y Cyngor waith ymgysylltu cychwynnol er mwyn datblygu'r strategaeth rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Chwefror 2025, trwy weithdai gyda grwpiau lleol ac ymgysylltu â’r cyhoedd ar-lein. Mae fersiwn ddrafft y strategaeth yn nodi pum uchelgais craidd ar gyfer canol y dref, sy'n cynnwys:

  • Bod Tonypandy yn Groesawgar, gyda chysylltiadau sy’n golygu bod modd cyrraedd canol y dref yn hawdd a llwybrau bywiog, a bod teithio cynaliadwy yn cael ei hyrwyddo yno. Bydd arwyddion a gwaith celf lliwgar yn rhan allweddol o hyn.
  • Bod y stryd fawr yn darparu cymysgedd o gartrefi, cyfleusterau hamdden a lleoedd gwaith. Mae’r uchelgais Byw ar y Stryd Fawr yn cynnwys cartrefi wedi'u lleoli ochr yn ochr â siopau, gan ddarparu lle bywiog o ran byw yno. Bod cyfleusterau ar gael yn agos, ynghyd â chyfleoedd lleol i gymdeithasu yn ystod y dydd a gyda'r nos.
  • Bod Tonypandy yn adeiladu ar dreftadaeth arwyddocaol yr ardal, ac yn ei defnyddio’n garreg sarn i arloesedd. Bydd Creu Hanes yn y ffordd yma yn darparu cyfleoedd i ddathlu'r gorffennol a hyrwyddo'r dyfodol.
  • Mannau i Ddathlu yng nghanol y dref i ddarparu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd er mwyn dathlu achlysuron, bywyd a chelfyddydau a diwylliant. Bydd hyn hefyd yn annog ymwelwyr i ddod i ganol y dref.
  • Canolbwyntio ar Feithrin Busnesau, gweithio gyda'r Ardal Gwella Busnes newydd er mwyn sicrhau bod y gymuned yn ffynnu. Bydd cael amgylchedd llawn cymorth yn annog entrepreneuriaid lleol ac yn llenwi'r ardal â masnachwyr sy’n cynnwys busnesau bach sydd newydd gael eu dechrau a siopau annibynnol.

Mae fersiwn ddrafft y strategaeth yn cynnwys cyfres o brosiectau posibl sy'n ceisio denu buddsoddiad a darparu newid cadarnhaol ac ystyrlon yng Nghanol Tref Tonypandy. Mae'r rhain yn cynnwys Sgwâr Pandy, Stryd Dunraven a Stryd Dunraven Isaf. Byddai prosiectau arfaethedig ar gyfer yr ardaloedd yma yn cynnwys:

  • Prosiectau anofodol megis datblygu strategaeth farchnata, ynghyd â rhestr o achlysuron allweddol a rhoi cymorth i fusnesau.
  • Gwelliannau i fannau cyhoeddus sy'n cynnwys datblygu man gwyrdd yn Heol Gelli a gwella’r Gerddi Coffa.
  • Gwella arwyddbyst ac arwyddion ledled canol y dref.
  • Gwelliannau i eiddo nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio i’w llawn botensial ar y stryd fawr, neu sy’n wag.
  • Cyfleusterau teithio llesol gwell er mwyn annog beicio a cherdded yn lleol, er enghraifft darparu man storio diogel ar gyfer beiciau.
  • Gwelliannau i fynedfeydd i ganol y dref, gan gynnwys gwella’r  orsaf fysiau a'r orsaf drenau fel eu bod nhw’n ardaloedd allweddol.
Wedi ei bostio ar 06/08/2025