Skip to main content

Dyn o Aberdâr yn cael DIRWY gwerth £1100

Mae dyn o Aberdâr wedi gadael y llys gyda dirwy o dros £1100 ar ôl iddo adael 29 o fagiau llawn gwastraff yn ei gymuned leol!

Cafodd y bagiau, a oedd wedi'u llenwi â gwastraff tŷ ac ailgylchu a allai fod wedi cael ei ddidoli, ei ailgylchu a/neu ei waredu'n RHAD AC AM DDIM o ymyl y ffordd neu mewn canolfan ailgylchu yn y gymuned leol, eu tipio'n anghyfreithlon yn Ysguborwen, Llwydcoed.

Cafodd y bagiau ailgylchu clir eu gadael wedi'u gwasgaru yng nghefn gwlad. Roedden nhw'n cynnwys gwybodaeth a arweiniodd at olrhain y troseddwr a'i ddal! Y rhan waethaf yw bod y bagiau wedi'u gadael 1.8 milltir o Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned Llwydcoed.

Daeth i'r amlwg mai Mr Jeffrey Taylor o Gwmaman, Aberdâr, oedd y troseddwr. Cafodd Mr Taylor ei gyfweld o dan Godau Ymarfer Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a chyfaddefodd iddo daflu'r eitemau.

Oherwydd y nifer fawr o eitemau, cafodd yr achos ei gyfeirio i Lys Ynadon Merthyr Tudful.

Mae Adran 33(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn disgrifio'r drosedd o dipio'n anghyfreithlon fel a ganlyn: “illegal deposit of any waste onto land that does not have a licence to accept it”. Mae modd i unrhyw un sy'n cael gwared ar eu gwastraff yn anghyfreithlon wynebu dirwy sylweddol fel darganfyddodd y dyn yma!

Plediodd Mr Taylor yn euog a chymerodd gyfrifoldeb llawn am ei weithredoedd, gan ddatgan "Gyrrais i fyny'r lôn, roedd fy mhen ar chwâl. Fyddwn i byth wedi'i wneud fel arfer, doeddwn i ddim yn meddwl yn rhesymegol". O ganlyniad, cafodd ddirwy o £320, a gorchymyn i dalu costau o £682.66 a gordaliad i ddioddefwyr o £128 – sef cyfanswm o £1130.66.

Yn dilyn yr erlyniad diweddaraf yma, dyma atgoffa trigolion fod dyletswydd gofal arnyn nhw i gael gwared ar eu gwastraff yn briodol, ac i sicrhau bod eitemau'n cael eu gwaredu'n gywir. Os na fyddwch chi'n gwneud hyn, gallai beri mwy o drafferth na gorfod teithio ychydig filltiroedd ychwanegol i'r ganolfan ailgylchu yn y gymuned agosaf neu gymryd yr amser i roi trefn ar eich deunyddiau ailgylchu gartref!

Mae gan y Cyngor wasanaeth diderfyn wythnosol, sy'n casglu eitemau sych, gwastraff bwyd a chewynnau i'w hailgylchu o ymyl y ffordd. Yn ogystal â hynny, mae gan y Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, felly does dim esgus dros dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig tipio'r eitemau hynny y mae modd eu casglu o ymyl y ffordd neu eu hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

“Dyma achos siomedig arall ble gallai'r eitemau a gafodd eu tipio'n anghyfreithlon fod wedi cael eu hailgylchu neu eu gwaredu yn un o'n canolfannau ailgylchu – dim ond 1.8 milltir i ffwrdd o Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned Llwydcoed! Fydd ymddygiad o'r fath ddim yn cael ei oddef yn Rhondda Cynon Taf. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, strydoedd na'n pentrefi gyda gwastraff a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.

"Fel y mae'r achos yma'n ei ddangos, rydyn ni'n ymchwilio i BOB adroddiad am dipio'n anghyfreithlon a byddwn ni'n darganfod yr holl fanylion. Mae cael gwared ar wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol yn costio cannoedd ar filoedd o bunnoedd y byddai modd eu gwario ar wasanaethau rheng flaen allweddol.

“Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael inni, i ddwyn i gyfrif y rheini sy'n gyfrifol am eu gweithredoedd. Mae llawer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu neu'u gwaredu yn y canolfannau ailgylchu yn y gymuned neu hyd yn oed eu casglu o ymyl y ffordd – heb unrhyw gost ychwanegol."

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o dipio'n anghyfreithlon, ailgylchu a chanolfannau ailgylchu yn y gymuned yn Rhondda Cynon Taf, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Insta neu ewch i www.rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 06/08/2025