Skip to main content

Gwaith pwysig i atgyweirio cwlferi wedi'i gwblhau yn Aberpennar

Troed y Rhiw web grid

Hoffai'r Cyngor ddiolch i'r gymuned leol yn Aberpennar am ei chydweithrediad wrth i waith mawr i atgyweirio cwlferi gael ei gynnal ar Heol Troed-y-rhiw – sydd bellach wedi'i gwblhau'n llwyddiannus. 

Dechreuodd y gwaith pwysig yma ym mis Mai 2025, ac roedd yn ail gam cynllun i unioni difrod i gwlferi a achoswyd gan y tywydd digynsail yn ystod Storm Bert, ac i wella gwydnwch y rhwydwaith.

Cafodd gwaith atgyweirio brys ei gynnal yn ystod y diwrnodau ar ôl y storm, a chafodd cam cyntaf y prif gynllun atgyweirio ei gynnal rhwng mis Chwefror ac Ebrill 2025.

Mae gwaith cam dau, a gafodd ei gwblhau i raddau helaeth ddydd Gwener 8 Awst, wedi cynnwys cynyddu maint rhan o bibell o dan y ffordd, gosod system orlifo a gosod twll archwilio newydd ar hyd y rhwydwaith. Mae'n bosibl y bydd trigolion yn gweld mân waith yn cael ei gynnal dros yr wythnos nesaf er mwyn gorffen y cynllun.

Cafodd y cynllun ei gyflawni gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT ac is-gontractwr y Cyngor, Arch Services Ltd.

Mae'r holl fesurau rheoli traffig wedi cael eu symud oddi yno yn dilyn cwblhau'r gwaith, gan gynnwys ailagor y rhan is o Heol Troed-y-rhiw ar ôl ei chau dros dro.

Mae'r lôn troi i'r dde yng nghanol yr A4059 wedi ailagor, yn dilyn ei chau dros dro.

Mae'r Cyngor wedi sicrhau £4.52 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer lliniaru llifogydd yn 2025/26 – ar draws ei raglenni Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith ar Raddfa Fach.

Mae hyn yn ychwanegol at y cyllid gwerth £1.5 miliwn tuag at 10 cynllun pellach trwy'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth, ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.

Wedi ei bostio ar 12/08/2025