Skip to main content

Siop leol ym Mhentre yn derbyn dirwy DROS 1100

Mae carfan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog cwsmeriaid i wirio dyddiadau defnyddio olaf pan fyddan nhw'n prynu gan fod siop leol arall wedi'i chanfod yn euog o werthu bwyd ar ôl y dyddiad defnyddio olaf! 

Mae 'Pentre Stores', sef siop Londis ym Mhentre, wedi’i herlyn gan adran Safonau Masnach y Cyngor ar ôl iddi roi cwsmeriaid mewn perygl pan ddaeth i'w amlwg eu bod yn gwerthu 5 eitem fwyd heibio i’w dyddiad defnyddio olaf.  

O dan Reoliadau Bwyd Cyffredinol 2004, mae’n drosedd torri neu fethu â chydymffurfio â darpariaethau penodol, gan gynnwys rheolau sy’n ymwneud â gofynion cyfraith bwyd, diogelwch bwyd, cyflwyniad neu labelu, olrhain, a thynnu'n ôl, adalw a hysbysu. Mae'r rheoliadau'n nodi na fydd bwyd "yn cael ei roi ar y farchnad os yw'n anniogel". 

Daeth y drosedd i'r amlwg yn ystod archwiliad safonau bwyd arferol o'r siop. Roedd y perchennog eisoes wedi derbyn cyngor mewn perthynas â rhoi bwyd ar werth neu ei werthu heibio i'w ddyddiad defnyddio olaf. 

Yn ystod yr arolygiad, daeth swyddogion o hyd i 5 lasagne llysiau wedi'u rhoi ar werth a oedd 7 diwrnod heibio i'w dyddiad defnyddio olaf. Pe bai'r dyddiad wedi'i wirio'n rheolaidd ddwywaith y dydd yn ôl cyngor swyddogion, mae hyn yn golygu bod y dyddiad defnyddio olaf wedi'i fethu, ac wedi mynd heibio, ar 14 achlysur, ac arhosodd y cynhyrchion ar werth. 

Wrth ymddangos yn y llys yn gynharach y mis yma, rhoddodd Mr Veliah Muraleetharan wybod fod gyda fe fesurau lliniaru a systemau newydd ar waith bellach i sicrhau na fyddai bwyd yn cael ei werthu heibio i'w ddyddiad defnyddio olaf, ac ar yr achlysur yma, mai camgymeriad dynol oedd bod y cynhyrchion yn cael eu methu dro ar ôl tro. Plediodd yn euog a chafodd orchymyn i dalu cyfanswm o £1,186. Roedd hyn yn cynnwys dirwy o £632, costau gwerth £300, a gordal i ddioddefwyr gwerth £253. 

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

“Os bydd siop yn gwerthu bwyd yn ein Bwrdeistref Sirol, mae gyda nhw gyfrifoldeb i sicrhau bod y nwyddau maen nhw'n eu gwerthu yn ddiogel i gwsmeriaid eu bwyta.  

“Y gwneuthurwr sy'n nodi'r dyddiadau defnyddio olaf ar eitemau bwyd darfodus ac maen nhw'n hanfodol i sicrhau bod cwsmeriaid yn prynu ac yn bwyta eitemau diogel. 

“Mae'n annerbyniol bod angen i ddefnyddiwr wirio cynnyrch cyn eu prynu i sicrhau nad ydyn nhw'n mynd yn sâl oherwydd bod busnes yn methu â chynnal yr arferion hylendid bwyd sy'n ofynnol yn gyfreithiol. Byddai rhagofalon i atal y troseddau yma wedi bod yn syml, gan gynnwys gwirio dyddiol a thynnu bwydydd sydd wedi mynd heibio i'w dyddiad defnyddio olaf oddi ar y silffoedd. 

“Mae’r adran Safonau Masnach bwrpasol yn cynnig digon o gyngor a chymorth i fusnesau bwyd yn rheolaidd ac mae’r rhan fwyaf, diolch byth, yn cynnal busnes mewn modd diogel sydd ddim yn rhoi defnyddwyr mewn perygl. 

“Rwy’n hyderus bod y cam diweddaraf yma'n anfon neges i fusnesau ar draws y Fwrdeistref Sirol i gael mesurau priodol yn eu lle i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch bwyd, neu byddan nhw'n wynebu’r goblygiadau.” 

Os oes gyda chi bryderon am fwyd yn cael ei werthu ar ôl y dyddiad defnyddio olaf, ffoniwch 0808 223 1144 (llinell Gymraeg) i roi gwybod amdano. I gael rhagor o wybodaeth am Reoliadau Diogelwch Bwyd yn Rhondda Cynon Taf ewch i www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach.

Wedi ei bostio ar 06/08/2025