Skip to main content

Beth am ailgylchu'n ŵy-ch dros y Pasg yma?

Mae'n drueni bod dros 720 miliwn o wyau'n cael eu gwastraffu bob blwyddyn yn y DU!

Beth am ailgylchu'n ŵy-ch dros y Pasg drwy dorri recordiau ailgylchu a lleihau ein gwastraff bwyd cyffredinol? Amlygodd dadansoddiad diweddar cwmni WRAP o fagiau du yn Rhondda Cynon Taf fod ein gwastraff bagiau du yn cynnwys 39% o eitemau bwyd a allai fod wedi cael eu hailgylchu! Mae hyn yn llawer uwch na ffigwr Cymru gyfan, sydd yn 25%!

Drwy dynnu'r gwastraff bwyd yma allan o'r bagiau du a'i roi yn y bin gwastraff bwyd, mae modd i ni helpu i fwrw targed ailgylchu'r Cyngor o 70%, sydd wedi'i osod gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25.

Ar gyfartaledd, mae dros 11,000 tunnell o wastraff bwyd yn cael ei gasglu a'i ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf. Wrth droi'r gwastraff yma'n ynni yn ffatri ailgylchu gwastraff bwyd Bryn Pica, Llwydcoed, caiff digon o ynni ei gynhyrchu i bweru dros 1000 o gartrefi.

Os dydych chi ddim wedi cofrestru eto, mae modd i chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn galw ar ei drigolion i ailgylchu cynifer â phosibl o becynnau wyau Pasg, toesenni croes, esgyrn cig oen a phlisg wyau sydd ddim wedi’u bwyta!

Bydd dros 80 miliwn o wyau Pasg yn cael eu bwyta a'u gwerthu dros gyfnod y Pasg, gan arwain at 8,000 tunnell o wastraff deunydd pecynnu.

Allech chi leihau eich deunydd pecynnu? Mae bron i ddwy ran o dair o drigolion y DU'n credu bod pecynnau wyau Pasg yn cynnwys gormod o ddeunyddiau. Drwy chwilio ar-lein yn sydyn cyn mynd i'r siopau, mae modd ichi gael syniad gwell am ba wyau Pasg sydd â'r lleiaf o ddeunydd pecynnu.

Sut ydych chi'n mynd ati? Unwaith i chi fwyta'ch holl wyau Pasg, pwyllwch cyn taflu'r deunyddiau plastig, ffoil a chardfwrdd yn y bin. Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth ailgylchu hawdd ac AM DDIM, gyda chasgliadau o ochr y palmant yn wythnosol. Mae hyn yn ogystal â chasgliadau gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd y Gwanwyn a chasgliadau cewynnau wythnosol.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Mae ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf yn eithriadol o hawdd a hygyrch i bawb - gyda system un bag clir wythnosol syml ar gyfer deunydd ailgylchu sych a gwasanaeth ar wahân ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd.

“Hoffwn ddiolch i drigolion am ymuno â ni yn ein brwydr yn erbyn y Newid yn yr Hinsawdd. Drwy gynyddu ein hymdrechion ailgylchu ynghyd â'r newidiadau i'r gwasanaeth casglu bagiau du a biniau arfaethedig gallwn ni helpu i leihau ôl troed carbon y Cyngor gan ddod a ni'n agosach at fwrw targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25.

“Mae rhagor o drigolion yn manteisio ar ein gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu wythnosol wrth ymyl y ffordd. Mae ein holl Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor i'r cyhoedd a bellach yn gweithredu yn unol â'u horiau agor ar gyfer yr haf.

“Rwy’n annog ein holl drigolion nad ydyn nhw’n ailgylchu ar hyn o bryd i ddod at ei gilydd i WELLA ein hymdrechion Ailgylchu – bydd y newidiadau rydyn ni i gyd yn eu gwneud i’n harferion nawr yn sicrhau ein bod ni’n osgoi dirwyon sylweddol ac yn diogelu byd mwy disglair i genedlaethau’r dyfodol – fedrwn ni ddim fforddio peidio â gwneud hyn!

Sicrhewch fod gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu yn y bagiau gwastraff bwyd gwyrdd cywir, a’ch bod chi'n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu cewynnau a chasglu gwastraff gwyrdd os oes angen. Sicrhewch fod y cewynnau yn cael eu rhoi allan mewn bagiau piws a gwastraff gwyrdd yn y sachau gwyrdd. Dylai'r holl ddeunyddiau ailgylchu glân a sych gael eu rhoi mewn bagiau ailgylchu CLIR.”

Fydd DIM NEWID i gasgliadau ailgylchu wrth ymyl y ffordd a chasgliadau gwastraff dros wyliau'r Pasg. Cofiwch roi'r biniau/bagiau wrth eich man casglu arferol ar eich diwrnod casglu arferol. Cofiwch barcio’n ystyrlon, fel bod modd i'r cerbydau ailgylchu gael mynediad i'ch stryd yn ystod y cyfnod prysur yma.

Cofiwch fod y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor dros ŵyl y banc, yn barod i dderbyn eich holl sbwriel ychwanegol y Pasg – yr oriau agor yw 8am tan 7.30pm (oriau agor yr haf). Efallai bydd ciwiau o ganlyniad newid sgipiau ayb yn ystod cyfnodau prysur - mae modd ichi fwrw golwg ar fanylion llawn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar-lein ar www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu.

Bydd yr holl gyfleusterau hyn yn diwallu’ch holl anghenion o ran ailgylchu. Mae rhestr lawn o'r eitemau a dderbynnir i'w chael ar http://www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauAilgylchu

Mae staff ymhob canolfan, ac maen nhw bob amser yn barod i helpu.

Ddim yn siŵr beth sy'n addas i ailgylchu neu beth sydd ddim? Defnyddiwch y cyfleuster chwilio ar-lein – www.rctcbc.gov.uk/ChwilioAilgylchu 

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu? Ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu

Wedi ei bostio ar 06/04/23