Skip to main content

Marti Pellow am berfformio yn Rhondda Cynon Taf

Marti Pellow

Marti Pellow

Bydd y canwr poblogaidd Marti Pellow yn ymweld â Theatr y Colisëwm, Aberdâr, yn ystod yr hydref eleni, a hynny'n rhan o'i daith 'Pellow Talk - The Lost Chapter'. 

Bachwch eich tocynnau nawr! Bydd y gyngerdd yn cael ei chynnal nos Sadwrn, 11 Tachwedd, yn rhan o daith ledled y DU. 

Marti Pellow: The Lost Chapter – Tocynnau 

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: "Mae'n bleser croesawu'r perfformiwr eiconig Marti Pellow i un o theatrau Rhondda Cynon Taf. 

"Mae wedi gweithio yn y byd cerddoriaeth ers bron i 40 mlynedd ac wedi ennill llawer o glod. Mae'n amlwg bod gyda'n theatrau enw da iawn hefyd, a ninnau wedi llwyddo i ddenu perfformiwr talentog o'r fath. 

"Bydd pob sedd yn siŵr o fod yn llawn wrth i'r gynulleidfa fwynhau noson i'w chofio." 

Mae Pellow Talk: The Lost Chapter, yn archwiliad o'r cyfansoddwr, a'r caneuon sy'n gwneud y dyn. 

Mae sioe theatr agos-atoch cyn ganwr Wet Wet Wet wedi’i gosod mewn ystafell eistedd o’r 1970au, yn debyg iawn i’r un y cafodd ei fagu ynddi, lle mae’n sôn am ei fywyd personol, ei gerddoriaeth a’i enwogrwydd, ynghyd â chanu byw rhai o’i ganeuon mwyaf enwog. 

Cafodd Wet Wet Wet gyfres o senglau llwyddiannus, ac fe ddaeth y band yn enw cyfarwydd wrth ennill llu o wobrau. Yn ddiweddarach, lansiodd Marti Pellow yrfa unigol lwyddiannus iawn ym myd theatr a cherddoriaeth. 

Mae Marti Pellow – The Lost Chapter, yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr, nos Sadwrn, 11 Tachwedd (7:30pm). Pris tocynnau safonol yw £33; mae tocynnau VIP yn £50 ac mae tocynnau Cwrdd a Chyfarch yn £90. Ewch i wefan Theatrau RhCT am ragor o wybodaeth 

Wedi ei bostio ar 13/04/23