Skip to main content

Gwyliau Banc Mis Mai 2023

Bydd modd i drigolion ledled Rhondda Cynon Taf fwynhau llawer o wyliau banc y mis nesaf (mis Mai).

Bydd tair gŵyl y banc yn ystod mis Mai 2023. Bydd gŵyl y banc ychwanegol eleni ar gyfer Coroni Ei Uchelder Brenhinol Y Brenin Charles III ddydd Sadwrn 6 Mai felly bydd trigolion y DU yn cael gŵyl y banc ddydd Llun 8 Mai 2023.

Fydd rhai o wasanaethau'r Cyngor ddim ar gael yn ystod y gwyliau banc.

Fydd DIM NEWIDIADAU i'ch casgliadau ailgylchu a gwastraff dros y gwyliau banc. Gadewch eich eitemau yn eich man casglu arferol ar eich diwrnod casglu arferol. Bydd POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned AR AGOR bob dydd Llun rhwng 8am a 7.30pm.

Bydd swyddfeydd y Cyngor ar gau ar y gwyliau banc canlynol:

  • Dydd Llun 1 Mai, ailagor ddydd Mawrth 2 Mai
  • Dydd Llun 8 Mai, ailagor ddydd Mawrth 9 Mai
  • Dydd Llun 29 Mai, ailagor ddydd Mawrth 30 Mai.

Bydd hyn hefyd yn berthnasol i BOB prif wasanaeth, gan gynnwys:

  • llyfrgelloedd
  • toiledau cyhoeddus
  • meysydd parcio sy'n cael eu cloi
  • ysgolion
  • canolfannau iBobUn
  • gwasanaethau profedigaethau
  • y swyddfa gofrestru
  • gofal cymdeithasol

Bydd gwasanaethau argyfyngau y tu allan i oriau'r swyddfa ar gael o hyd.

  • Argyfyngau Gofal Cymdeithasol y tu allan i oriau'r swyddfa, ffoniwch: 01443 743665.
  • Gwasanaethau argyfyngau (digartrefedd) y tu allan i oriau'r swyddfa, ffoniwch 01443 425011.

Mae rhagor o fanylion am yr HOLL wasanaethau sydd ar gael, a'u horiau agor, yn ystod y cyfnodau yma ar gael ar wefan y Cyngor: www.rctcbc.gov.uk/gwyliaubanc 

Bydd modd i chi ddefnyddio ystod o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnodau yma ar www.rctcbc.gov.uk/cysylltu ond rhaid i drigolion gofio efallai na fydd ceisiadau yn cael eu prosesu tan y bydd swyddfeydd yn ailagor.

Wedi ei bostio ar 27/04/2023