Mae llawer o wobrau gwych i'w hennill yn Raffl Elusennau Maer Rhondda Cynon Taf. Prynwch eich tocynnau ar-lein am gyfle i ennill y gwobrau.
Bydd pob ceiniog a godir yn mynd tuag at Apêl Flynyddol Elusennau Maer Rhondda Cynon Taf. Yr elusennau y bydd yn eu cefnogi eleni yw Ambiwlans Awyr Cymru, y Gymdeithas Strôc a Green Meadow Riding for the Disabled.
Meddai'r Cynghorydd Wendy Treeby, Maer Rhondda Cynon Taf: "Cefnogwch fy raffl os oes modd i chi wneud hynny. Byddwch chi'n helpu i gefnogi'r elusennau o'm dewis yn ystod fy mlwyddyn i yn y swydd, a fydd o fudd i lawer o bobl.
"Hoffwn i ddiolch i'r holl unigolion a busnesau lleol sydd wedi bod yn hael iawn ac wedi cyfrannu gwobrau. Hoffwn i hefyd ddiolch ymlaen llaw i'r holl bobl hynny sy'n prynu eu tocynnau ar-lein.”
Mae modd i chi brynu tocynnau Raffl Elusennau'r Maer ar-lein, heddiw
Bydd y raffl yn cael ei chynnal ddydd Mawrth, 9 Mai, a bydd pob enillydd yn cael ei gyhoeddi. Dyma rai o'r gwobrau gwych bydd modd eu hennill:
- Talebau i ymweld â Gwesty a Chlwb Iechyd Miskin Manor
- Profiad gwneud jin i ddau berson yn Nistyllfa Castell Hensol, gan gynnwys taith, sesiwn blasu jin a'r profiad unigryw i ddistyllu'ch potel o jin unigryw eich hun i fynd â hi gartref gyda chi
- Tocyn teulu i Tower Zip World: Tower Climber i ddau oedolyn a dau blentyn – bydd cyfyngiadau'n berthnasol
- Taith dywys i hyd at bedwar person i Grochendy Nantgarw, gan gynnwys te prynhawn
- Talebau i’w gwario yn Chocolate House, Caffè Bracchi yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
- Talebau i'w gwario yn ystod ymweliad â'r Welsh Cheese Company
- Pêl droed i blentyn wedi'i llofnodi gan reolwr tîm pêl-droed Cymru, Rob Page
Mae tocynnau'r raffl yn costio £1 yr un. Rhaid i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn i brynu tocyn a does dim modd eu trosglwyddo. Cofrestrwyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Rhif cofrestru 437457.
Wedi ei bostio ar 13/04/23