Skip to main content

Croesfan newydd ar yr heol fawr, Groes-faen

Groesfaen crossing

Mae'r Cyngor bellach wedi cwblhau gwaith i osod croesfan ddiogel newydd ar yr heol fawr, Groes-faen.

Mae'r groesfan newydd (yn y llun) wedi'i lleoli ar yr A4119, i'r dwyrain o gyffordd Y Parc.

Roedd modd i gerddwyr ddefnyddio'r groesfan o ddydd Gwener, 31 Mawrth. Roedd y gwaith cysylltiedig helaeth yn cynnwys gosod cyrbau newydd, adnewyddu llwybrau cerdded a gosod 100 metr o arwyneb newydd.

Cafodd hyn ei ariannu gan Raglen Gwneud Defnydd Gwell, sy'n rhan o raglen ehangach y Cyngor ar gyfer Priffyrdd a Thrafnidiaeth.

Wedi ei bostio ar 04/04/23