Mae tafarn yn Rhondda Cynon Taf wedi'i erlyn gan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf ar ôl cael ei ganfod o amnewid fodca Smirnoff â math arall o fodca.
Fe blediodd Colin Edrop, perchennog busnes tafarn 'The Bear' Llantrisant, yn euog wrth iddo ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful. Mae'n rhaid iddo dalu cyfanswm o £1,194 - dirwy o £402, £752 costau'r llys a £40 o ordal dioddefwyr.
Daeth y drosedd i'r amlwg yn dilyn arolwg Safonau Masnach reolaidd ym mis Mai 2022, pan gafodd swyddog Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf amheuon am ddilysrwydd y fodca Smirnoff.
Roedd dadansoddiadau pellach ac archwiliadau wedi cadarnhau bod y Smirnoff wedi'i amnewid â math arall o fodca.
Yn dilyn yr achos llys, meddai Rhian Hope, Pennaeth Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio Cyngor Rhondda Cynon Taf "Mae ein swyddogion Safonau Masnach yn gweithio mewn ffordd ryngweithiol i sicrhau bod y bwyd a'r ddiod sy'n cael eu bwyta a'u hyfed gan y cyhoedd yn cael eu disgrifio'n gywir.
"Mae'r math yma o drosedd yn twyllo defnyddwyr ac yn creu mantais masnachu annheg dros mangre drwyddedig arall. Mae'r drosedd hefyd yn gallu cael effaith negyddol ar ddeiliad y brand.
"Rwy'n gobeithio bod yr achos yma'n arddangos i gwsmeriaid, mangreoedd trwyddedig a'r deiliaid brand sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod cynnyrch wedi'i ddisgrifio'n gywir bod gwiriadau'n cael eu gwneud gan Safonau Masnach, gan weithredu ar y math yma o drosedd."
Wedi ei bostio ar 17/04/23