Skip to main content

Cyllid cyfalaf sylweddol ychwanegol ar gael i ddarparwyr gofal plant

Mae'r Cyngor yn annog darparwyr gofal plant i wneud cais am ei gylch diweddaraf o gyllid Grantiau Cyfalaf Bach sydd bellach ar gael ar gyfer 2023/24. Cafodd cyfanswm o £414,000 ei fuddsoddi mewn 56 o brosiectau gwella ledled Rhondda Cynon Taf y llynedd.

Cafodd cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar ei lansio ym mis Hydref 2022, gyda gwerth £414,000 o gyllid ar gael i'w ddyrannu i gyflwyno prosiectau yn 2022/23. Nod y grant yw cefnogi lleoliadau gofal plant cofrestredig sy'n gweithredu yn y Fwrdeistref Sirol i ymgymryd â gwaith hanfodol ar raddfa fach neu i brynu offer. Cafodd cyfanswm o 56 o brosiectau eu darparu.

Nod y grant yw helpu i gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, cynyddu nifer y lleoedd Cynnig Gofal Plant, lleoedd Dechrau'n Deg a Dysgu Sylfaen mewn lleoliadau lleol, a gwella ansawdd y cyfleusterau y mae modd iddyn nhw gynnig i blant.

Mae'r Cyngor bellach wedi cyhoeddi manylion ei gyllid diweddaraf, gyda chyfanswm o £525,000 ar gael ar gyfer 2023/2024. Caiff darparwyr gofal plant cofrestredig yn y Fwrdeistref Sirol eu hannog i e-bostio GrantiauGofalPlantRhCT@rctcbc.gov.uk am ragor o wybodaeth am y cynllun ac am fanylion ar sut i wneud cais.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Gwasanaethau Cynhwysiant a'r Gymraeg: "Rydw i'n falch iawn y bydd Cynllun Grant Cyfalaf Bach diweddaraf y Cyngor ar gyfer 2023/24 yn buddsoddi mwy na £500,000 i wneud gwelliannau i ddarpariaethau gofal plant lleol a Dechrau'n Deg. Mae hyn ar ben y £414,000 o gyllid a gafodd ei ddarparu'r llynedd, a oedd yn gymorth i 56 o ddarparwyr lleol i ddarparu prosiectau wedi'u targedu.

“Bydd y cyllid yn parhau i helpu i ddarparu Cynnig Gofal Plant 30-awr i Gymru Llywodraeth Cymru yn lleol, drwy wella cyfleusterau a gaiff eu darparu mewn lleoliadau gofal plant yn Rhondda Cynon Taf. Gallai prosiectau amrywio o wella mannau, adfywio mannau sydd ddim yn cael eu defnyddio, gwneud y mwyaf o fannau awyr agored a phrynu offer.

"Rydw i'n annog pob darparwr gofal plant lleol sydd â diddordeb i gysylltu â'r Cyngor i gael gwybod rhagor am y cylch cyllid newydd, syd ar gael ar gyfer prosiectau yn 2023/24. Mae cyfeiriad e-bost wedi'i nodi fel bod modd i chi roi gwybod i ni os oes gyda chi ddiddordeb yn y cynllun ac i gael gwybod am sut i wneud cais."

Wedi ei bostio ar 13/04/2023