Yn dilyn Pedalabikeaway yn cyhoeddi'n ddiweddar fyddan nhw ddim yn gweithredu Parc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd yng Nghwm Dâr mwyach, hoffen ni roi sicrwydd i drigolion y byddwn ni'n parhau gyda chyflenwr newydd ar ôl 9 Mai ar y safle.
Penderfynodd y darparwr presennol roi'r gorau i'r arlwy presennol yn y parc, ac yna roddodd wybod am hynny i'r Cyngor.
Os ydych chi'n defnyddio Disgyrchiant, bydd ychydig iawn o darfu yn unig yno pan fydd y gweithredwr yn newid y mis nesaf.
Parc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, Cwm Dâr yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru ac mae wedi'i gynllunio'n benodol i deuluoedd, dechreuwyr a beicwyr canolradd ei fwynhau. Doedd dim bwriad erioed i ehangu llwybrau presennol y parc, yn enwedig gan fod BikePark Cymru yn cynnig ei brofiad beicio mynydd ei hun gerllaw.
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr hefyd yn ardal bwysig ar gyfer bywyd gwyllt, a rhaid ystyried bioamrywiaeth mewn perthynas ag ehangu llwybrau beicio Disgyrchiant.
Hoffen ni ddiolch i Pedalabikeaway am eu gwaith caled parhaus wrth gynnal y cyfleuster gwych yma, a rhoi sicrwydd unwaith eto i drigolion ac ymwelwyr nad oes unrhyw gynlluniau i ddod â’r gwasanaeth i ben na chwtogi arno yn y dyfodol.
Wedi ei bostio ar 12/04/23