Skip to main content

System Rhybuddion Argyfwng y DU

UK Alert

Bydd prawf cenedlaethol o System Rhybuddion Argyfwng newydd y DU yn cael ei gynnal ddydd Sul, 23 Ebrill. Bydd y prawf rhybuddio'n cael ei anfon i'r rhan fwyaf o ffonau symudol ledled y DU. Bydd y rhybudd ond yn cael ei dderbyn unwaith.  

Bydd dyfeisiau'n gwneud sŵn unigryw fel seiren am hyd at 10 eiliad, gan gynnwys ffonau sydd wedi'u tawelu. Bydd ffonau hefyd yn dirgrynu ac yn arddangos neges am y prawf. Does dim angen rhifau ffôn a dyw lleoliadau ddim yn cael eu holrhain.  

Rhaid i ddefnyddwyr ffonau gydnabod y rhybudd cyn bod modd iddyn nhw barhau i ddefnyddio eu dyfeisiau. Caiff modurwyr eu cynghori i beidio edrych na chyffwrdd eu ffôn nes ei fod yn ddiogel i wneud hynny, yn yr un modd â phan maen nhw'n derbyn galwadau ffôn neu negeseuon.  

Enghraifft o sut bydd y prawf yn edrych a swnio: Rhybudd Argyfwng y DU 

Mae Rhybuddion Argyfwng yn wasanaeth Llywodraeth y DU fydd yn rhybuddio am unrhyw beryglon. Mewn achos argyfwng, bydd eich ffôn symudol neu lechen yn derbyn rhybudd ynghyd â chyngor am sut i gadw'n ddiogel.   

Gwybodaeth ar gyfer cynulleidfaoedd sy'n agored i niwed: Rhybudd Argyfwng y DU 

Bydd Rhybuddion Argyfwng y DU ond yn cael eu hanfon gan y gwasanaethau brys neu'r Llywodraeth, a bydd yr un neges yn cael ei hanfon i bob ffôn cydweddol o fewn ardal sy'n wynebu risg. Dydyn nhw ddim yn defnyddio rhifau ffôn, casglu data neu'n olrhain symudiadau.  

Does dim angen cofrestru na lawrlwytho ap. Mae modd i bob ffôn 4G a 5G Android ac Apple dderbyn y rhybuddion argyfwng.  

Fodd bynnag, mae pryderon am y risg bosibl i ddiogelwch pobl sydd efallai'n cadw eu ffonau wedi'u cuddio rhag rhywun sy'n eu cam-drin, am fod y rhybudd yn sŵn uchel fel seiren gyda neges ar y sgrin a dirgryniad. 

Mae'r elusen Refuge wedi creu fideo'n esbonio sut mae modd diffodd rhybuddion. Mae modd ei wylio ar eu sianel You Tube

Gall pobl ddewis peidio â derbyn rhybuddion argyfwng er mwyn osgoi i’w dyfeisiau gael eu canfod.  

Sut i ddewis peidio â derbyn Rhybuddion Argyfwng 

Mae modd ichi ddewis peidio â derbyn Rhybuddion Argyfwng, ond dylech chi eu cadw ymlaen er eich diogelwch eich hun. Er mwyn dewis peidio â'u derbyn:  

  • Chwiliwch am 'emergency alerts' yn eich gosodiadau 
  • Diffoddwcwh 'severe alerts' ac 'extreme alerts' 

Os ydych chi’n dal i dderbyn rhybuddion, cysylltwch â gwneuthurwr eich dyfais am gymorth. Bydd Rhybuddion Argyfwng yn cael eu hanfon i ffonau sy’n gallu eu derbyn o fewn ardal sy'n wynebu risg. 

Mae Rhybuddion Argyfwng yn gweithio ar iPhone â meddalwedd iOS 14.5 neu ddiweddarach, ffonau a llechi Android â meddalwedd Android 11 neu ddiweddarach. Gall y rhybuddion gael eu derbyn ar fersiynau cynharach o feddalwedd Android hefyd. Os oes gyda chi fersiwn gynharach o feddalwedd Android, efallai byddwch chi’n dal i allu derbyn rhybuddion. Er mwyn gwirio, chwiliwch yng ngosodiadau eich dyfais am 'emergency alerts.' 

Fyddwch chi ddim yn derbyn rhybuddion os yw’ch dyfais wedi’i gosod i ‘awyren’, wedi cysylltu â rhwydwaith 2G neu 3G, ar wi-fi yn unig, neu ddim â’r gallu i’w derbyn.  

I ddarganfod rhagor am Rybuddion Argyfwng, bwriwch olwg ar wefan y Llywodraethhttps://www.gov.uk/alerts/about.cy

Wedi ei bostio ar 20/04/2023