Skip to main content

Sêl bendith i Ardal Gwella Busnes Tonypandy, gan gefnogi buddsoddiad a datblygiad.

Tonypandy Town Centre - Copy

Mae busnesau yn Nhonypandy wedi pleidleisio i ddatblygu Ardal Gwella Busnes yn y dref hanesyddol er mwyn cefnogi buddsoddiad a datblygiad yn y dyfodol.

Daw'r penderfyniad wrth i'r dref baratoi hefyd i gynnal ymgynghoriad helaeth â busnesau a’r cyhoedd mewn perthynas â Strategaeth gyffrous Canol Tref Tonypandy.

Yn bwysig, bydd gwaith Ardal Gwella Busnes Tonypandy yn cael ei yrru gan fewnbwn busnesau a sefydliadau lleol, gan ddilyn modeli llwyddiannus sydd wedi'u rhoi ar waith gan Your Pontypridd, Our Aberdare a Love Treorcy - enillydd Gwobr Stryd Fawr Annibynnol Orau'r DU.

Cafodd cynigion i ddatblygu Ardal Gwella Busnes Tonypandy eu cymeradwyo gan Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ddechrau mis Gorffennaf 2024, gyda chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Trawsnewid Trefi, er mwyn cwblhau'r broses.

Derbyniodd pob busnes a sefydliad cymwys wahoddiad i leisio eu barn drwy gymryd rhan mewn pleidlais. Pleidleisiodd 25 o fusnesau, gydag 17 ohonyn nhw o blaid ac 8 yn erbyn. O'r rheiny a wnaeth bleidleisio, pleidleisiodd 68% o blaid yr Ardal Gwella Busnes.

Ardal lle mae masnachwyr yn gwneud cyfraniad ariannol,  sy’n gysylltiedig â’u hardrethi busnes, at ardoll yw Ardal Gwella Busnes. Mae’r ardoll yma’n gweithredu fel cronfa a rennir y mae modd ei defnyddio ar gyfer prosiectau yng nghanol y dref leol. Mae'r Ardal Gwella Busnes hefyd yn manteisio ar lwybrau cyllid eraill i gefnogi'r gwaith yma. 

Mae 14 Ardal Gwella Busnes yng Nghymru, gan gynnwys y tair sydd wedi'u nodi uchod.

Mae Tonypandy yn ganol tref hanesyddol gyda gwreiddiau dwfn yn etifeddiaeth ddiwydiannol falch y Fwrdeistref Sirol. Er ei bod yn wynebu heriau, mae ganddi'r potensial am ddyfodol cynaliadwy gyda'r partneriaethau, y cymorth a'r buddsoddiad cywir.

Mae wedi'i lleoli ger Afon Rhondda ac mae priffyrdd a phrif reilffordd y Cymoedd o Gaerdydd yn mynd i’r ardal. Mae'n lleoliad i'w fwynhau gan y rheiny sy'n chwilio am stryd fawr groesawgar gydag ystod o leoedd i fwyta, yfed, siopa ac ymlacio ynddyn nhw.

Mae hanes a threftadaeth arwyddocaol yr ardal, yn ogystal â'r dirwedd hardd o'i chwmpas, gyda pharciau gwledig, llwybrau cerdded ar hyd y mynyddoedd a'r bywyd gwyllt, yn atyniad pellach i ganol y dref ar gyfer ymwelwyr a thrigolion.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant:  "Mae Ardaloedd Gwella Busnes yn dod â busnesau lleol at ei gilydd gyda'r nod o wella ardaloedd manwerthu a gwella eu cynaliadwyedd.

"Pŵer eu llwyddiant yw gweithio gyda'i gilydd er mwyn nodi cyfleoedd a gwelliannau - o wella gwasanaethau bws i drefnu achlysuron er mwyn denu pobl i ganol y dref. Rydyn ni wedi gweld pa mor effeithiol y mae modd iddyn nhw fod ar draws y tair Ardal Gwella Busnes sy'n gweithredu ar hyn o bryd yn Rhondda Cynon Taf.

"Mae gyda Thonypandy Siambr Fasnach weithredol sy'n tyfu. Mae ganddi uchelgeisiau o sicrhau rhagor o gyllid a bydd Ardal Gwella Busnes yn helpu i sefydlu model ar gyfer y buddsoddiad, datblygiad a thwf yma yn y dyfodol.

"Rydyn ni'n falch y cytunwyd ar broses datblygu Ardal Gwella Busnes Tonypandy ac rydyn ni'n edrych ymlaen at rannu camau nesaf a newyddion y broses yma gyda busnesau, trigolion ac ymwelwyr.

"Dyma gyfnod pwysig i Donypandy wrth i fusnesau lleol ddechrau ar waith creu eu Hardal Gwella Busnes a gweithio gyda'r Cyngor er mwyn paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad terfynol sylweddol mewn perthynas â Strategaeth Canol Tref Tonypandy."

Cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Ardal Gwella Busnes Tonypandy ar ddiwedd 2023, gan gynnal cyfweliadau â 56 o fusnesau yn yr ardal fanwerthu graidd.  Roedd 68% o'r cyfranogwyr yn credu y dylai'r cynnig symud ymlaen i'r cam pleidleisio, a dywedodd 22% y byddai ganddyn nhw ddiddordeb mewn ymgymryd â rôl arwain yn rhan o’r Ardal Gwella Busnes.  Cyflwynodd y busnesau awgrymiadau ar gyfer yr hyn y gallai rhaglen Ardal Gwella Busnes bosibl ganolbwyntio arno - o wella'r ddarpariaeth TCC i gyflwyno gwasanaeth wardeiniaid stryd, lobïo ar gyfer gwasanaethau bws, ac ehangu rhaglen achlysuron y dref.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydnabod y cyfraniad cadarnhaol y gall Ardaloedd Gwella Busnes ei wneud wrth sefydlu canol trefi bywiog, ac mae wedi gwahodd ceisiadau am gyllid ar gyfer y camau datblygu cychwynnol yn rhan o’i Chronfa Trawsnewid Trefi.  Byddai angen arian cyfatebol gwerth 25% gan y Cyngor ar gyfer unrhyw gais llwyddiannus i'r Gronfa Trawsnewid Trefi - byddai hyn yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio adnoddau presennol.

ng resources.

Wedi ei bostio ar 05/08/2025