Mae'r Faner Werdd, sy'n adnabyddus yn rhyngwladol, wedi ei dyfarnu i bedwar parc cyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf unwaith yn rhagor.
Rydyn ni'n falch o allu cynnig mannau gwyrdd a pharciau sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n hardd yn Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni wedi ymrwymo i hyn.
Y mis diwethaf, fe gyhoeddodd y Cyngor ei fod yn neilltuo £2.9 miliwn ar gyfer buddsoddi mewn chwarae, parciau a chwaraeon ledled y Fwrdeistref Sirol.
Mae'r Cyngor yn gyfrifol am bron i 100 parc a mwy na 215 ardal chwarae ledled y fwrdeistref sirol. Mae ganddo raglen fuddsoddi sylweddol ar waith yn barhaus at ddibenion gofalu bod y lleoedd yma'n cael eu cynnal a'u cadw i'r safon uchaf posib.
Blaenoriaeth y Cyngor ar gyfer trigolion o bob oed yw sicrhau bod gyda nhw fynediad at fannau o ansawdd da, sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n dda hefyd – o deuluoedd â phlant ifainc sy'n mwynhau awyr iach ac ardaloedd picnic a chwarae, i gerddwyr, loncwyr a phobl sy'n gwneud chwaraeon sy'n defnyddio'r meysydd chwarae, y cyrtiau a'r ystafelloedd newid.
Y pedwar parc sydd wedi enillydd gwobr ar gyfer 2025 yw:
- Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd
Mae Gwobr y Faner Werdd yn dynodi parc neu fan gwyrdd o’r safon amgylcheddol uchaf bosibl, sy’n cael ei gynnal a'i gadw'n hyfryd ac sydd â chyfleusterau gwych ar gyfer ymwelwyr.
Ymwelodd beirniaid annibynnol â phob safle a dyfarnu marciau yn unol â meini prawf llym, gan gynnwys themâu fel bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
"Mae'n parciau a'n mannau chwarae yn bwysig i'n cymunedau, yn enwedig wrth i dymor gwyliau'r haf ddynesu a, gyda gobaith, y tywydd braf hefyd.
Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud nid yn unig i gynnal a chadw ein parciau, ond i sicrhau eu bod yn fannau diogel a chroesawgar ac ynddyn nhw gyfleusterau gwych.
"Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod modd i bobl fwynhau ein parciau ym mha bynnag fodd maen nhw'n dewis gwneud hynny – drwy chwarae, cael picnic, canfod lle heddychlon ar gyfer darllen, cerdded, gwneud chwaraeon, neu'n syml fan agored ar gyfer ymlacio, mwynhau ac ymarfer meddylgarwch.
"Ym mhob parc yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi ennill statws y Faner Werdd eleni, mae gwelyau blodau a meysydd chwarae hyfryd – ond mae nodweddion unigryw iawn i'w gweld hefyd!
"Mae Parc Abderdâr yn dyddio nôl i gyfnod Fictoria ac mae'r ffynnon sydd yno’r un fath â'r un tu fas i westy enwog Hotel Raffles yn Singapore. Mae newidiadau wedi bod i Barc Gwledig Cwm Dâr dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys adeiladu Parc Beicio Disgyrchiant ar gyfer y Teulu Oll – yr unig barc beicio ar gyfer y teulu, yng Nghymru. Gan barhau â thema'r nodweddion unigryw, mae ym Mharc Ffynnon Taf yr unig ffynnon dwym yng Nghymru, ac mae Lido Cenedlaethol Cymru, sef Lido Ponty wedi'i leoli ym Mharc Coffa Ynys Angharad. Mae'n rhwydd gweld bod ystod eang o weithgareddau ar gael ym mharciau Rhondda Cynon Taf, felly hefyd mannau gwyrdd ar gyfer ymlacio a mwynhau byd natur.
"Mae'r Cyngor ac aelodau'i garfanau parciau, sy'n rhoi o'u gorau bob amser, wedi gweithio'n galed i sicrhau Gwobr y Faner Werdd, a dyw hi wir ddim yn un hawdd i’w hennill. Mae’r ffaith ei bod yn cael ei dyfarnu i'n parciau flwyddyn ar ôl blwyddyn yn destament i’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal y safonau anhygoel o uchel sy’n ofynnol er mwyn chwifio’r Faner Werdd.
“Y mis diwethaf fe gyhoeddon ni hyd yn oed rhagor o fuddsoddiad a chadarnhau bod £2.9 miliwn pellach wedi'i glustnodi ar gyfer y rhaglen sy'n mynd rhagddi, sy'n brawf o'n hymrwymiad. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi bod yn rhan o bethau ar ennill y wobr yma unwaith eto.
I gael rhagor o wybodaeth ar barciau yn Rhondda Cynon Taf ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/SportsandLeisure/Parks.aspx.
Wedi ei bostio ar 06/08/2025