Efallai bod yr ysgolion ar gau dros yr haf, ond mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog rhieni, cynhalwyr a phlant i olchi eu dwylo wrth ymweld ag atyniadau lle mae anifeiliaid yn bresennol er mwyn atal parasitiaid rhag lledaenu.
Wrth i wyliau’r haf ddechrau, bydd mwy a mwy o bobl yn teithio i atyniadau lleol i ddiddanu’r plant dros y 6 wythnos nesaf. Mae hyn hefyd yn golygu y bydd heintiau, feirysau a pharasitiaid yn debygol o fanteisio ar y cyfle i deithio hefyd!
Mae'r Cyngor yn cynghori pawb sy'n ymweld â ffermydd, ac achlysuron ac atyniadau eraill lle mae anifeiliaid yn bresennol, i olchi eu dwylo'n drylwyr ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid. Mae hyn yn sgil sawl adroddiad o ddolur rhydd, yn bennaf mewn plant, sy'n gysylltiedig â Cryptosporidium, sef parasit sy'n cael ei ledaenu gan anifeiliaid.
Mae Cryptosporidium yn lledaenu trwy ddod i gysylltiad ag anifeiliaid sydd wedi'u heintio, yn enwedig ŵyn, geifr bach, lloi, a da byw eraill, yn ogystal ag arwynebau, gwellt a dŵr wedi'i halogi.
Cyngor hylendid allweddol:
- Golchwch eich dwylo'n iawn: Defnyddiwch ddŵr cynnes, sebon hylif, a sychu'ch dwylo mewn ffordd hylan (tywelion papur, sychwyr aer). Dydy hylif diheintio dwylo ddim yn effeithiol yn erbyn Cryptosporidium
- Ceisiwch osgoi bwyta neu yfed o gwmpas anifeiliaid: Peidiwch â bwyta nac yfed wrth gyffwrdd ag anifeiliaid. Golchwch eich dwylo cyn bwyta. Rhowch fwyd sydd wedi'i ollwng ar y llawr mewn bin
- Goruchwylio plant: Gwnewch yn siŵr bod plant yn golchi eu dwylo'n iawn ac yn osgoi cyffwrdd â'u hwyneb neu roi eu bysedd yn eu ceg
- Gofal i fenywod beichiog: Dylai menywod beichiog osgoi dod i gysylltiad ag anifeiliaid gan fod y risg heintio'n uwch
- Cofiwch lanhau esgidiau a chadeiriau gwthio: Dylech chi wneud hyn cyn gadael y fferm
Dylai ymwelwyr hefyd fod yn ofalus o ardaloedd awyr agored a allai fod wedi'u halogi fel byrddau picnic neu strwythurau chwarae.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
“Wrth i’r ysgolion gau, rydyn ni’n gwybod y bydd y rhai ifanc y tu allan yn cael hwyl, ac mae hynny’n wych. Y cwbl rydyn ni’n ei ofyn yw bod pawb yn dilyn y canllawiau o ran hylendid dwylo da fel bod modd i ni i gyd gadw’n ddiogel a mwynhau’r 6 wythnos. Chwaraewch yn ddiogel – golchwch eich dwylo!
Rhaid i berchnogion ffermydd lynu wrth y canllawiau iechyd a diogelwch newydd (Saesneg yn unig) ar gyfer atyniadau lle mae'r cyhoedd yn dod i gysylltiad ag anifeiliaid.
Ffynonellau heintio eraill:
- Yfed llaeth neu ddŵr heb ei drin
- Dod i gysylltiad â phobl wedi'u heintio neu fwyd wedi'i halogi
- Dŵr pwll nofio wedi'i heintio
Arwyddion a symptomau haint:
Fel arfer mae symptomau'n ymddangos o fewn 5 i 7 diwrnod ac yn para hyd at 2 wythnos.
Camau i atal heintio:
- Golchwch eich dwylo'n drylwyr ar ôl defnyddio'r toiled neu ddod i gysylltiad ag anifeiliaid
- Peidiwch ag yfed llaeth neu ddŵr heb ei drin
- Dilynwch holl ganllawiau diogelwch a hylendid y fferm
- Dylai unigolion sydd wedi'u heintio aros gartref nes bod y symptomau'n diflannu
Golchi dwylo – Gair i Gall:
- Dydy hylif diheintio dwylo ag alcohol ynddo ddim yn effeithiol yn erbyn Cryptosporidium. Golchi dwylo â dŵr poeth a sebon yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau hylendid dwylo da.
- Gwlychwch eich dwylo gyda dŵr cynnes.
- Rhowch sebon ar eich dwylo a'u sgwrio am 20 eiliad, gan drin pob rhan o'r dwylo.
- Golchwch eich dwylo a'u sychu gyda thywel glân neu sychwr aer.
Am ragor o wybodaeth am olchi dwylo, ewch i How to wash your hands - GIG (www.nhs.uk) (Saesneg yn unig).
Pryd i geisio cyngor meddygol:
Os byddwch chi'n datblygu symptomau fel dolur rhydd (yn enwedig gyda gwaed neu ddŵr ynddo fe), gwres, neu symptomau tebyg i ffliw ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid, ewch i weld eich meddyg teulu. Rhowch wybod i'ch gweithle neu'ch ysgol am bolisïau eithrio posibl.
Os byddwch chi neu'ch plentyn yn cael eich heintio, dylech chi:
- golchi'r holl ddillad brwnt, dillad gwely a thywelion ar y tymheredd poethaf posibl yn y peiriant golchi
- gwnewch yn siŵr bod gyda phawb eu tywel eu hunain a dydyn nhw ddim yn defnyddio tywel unrhyw un arall
- ewch ati i lanhau seddi a phowlenni toiledau, handlenni fflysio, tapiau a sinciau golchi dwylo ar ôl eu defnyddio gyda glanedydd a dŵr poeth, ac yna diheintydd cyffredinol
- peidiwch â mynd i nofio na mynd â'ch plentyn i nofio tra'n dioddef o ddolur rhydd, nac am bythefnos ar ôl i'r dolur rhydd stopio
- peidiwch â pharatoi bwyd i bobl eraill nes eich bod chi wedi bod yn rhydd o symptomau am o leiaf 48 awr
Am ragor o gyngor ac arweiniad, cysylltwch â:
Carfan Bwyd ac Iechyd a Diogelwch
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Ffôn: 01443 744283
E-bost: bwyd.iechydadiogelwch@rctcbc.gov.uk
Cadwch lygad ar yr wybodaeth ddiweddaraf, dilyn rhagofalon hylendid, a helpu i atal lledaeniad Cryptosporidium.
Wedi ei bostio ar 06/08/2025