Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi y bydd yn defnyddio cyllid grant i gefnogi teithio ar fysiau am bris rhatach ym mis Rhagfyr 2025, gan gapio'r gost unwaith eto. Bydd teithiau dros gyfnod y Nadolig yn costio dim mwy na £1.50 y daith yn Rhondda Cynon Taf yn ystod mis Rhagfyr.
Yn ogystal â hyn, bydd teithio ar fysiau i blant rhwng 5 a 21 oed yn costio dim mwy na £1 am daith sengl o fis Medi 2025 – deufis cyn i hyn gael ei gyflwyno'n llawn yn rhan o fenter genedlaethol Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd. Bydd y cynigion yma'n defnyddio cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rydw i'n falch iawn bod y Cyngor wedi cyhoeddi dwy fenter bwysig ar gyfer teithio ar fysiau heddiw. Bydd y mentrau yma'n cynnwys ailgyflwyno prisiau tocynnau bws o £1.50 dros gyfnod y Nadolig ym mis Rhagfyr 2025 – yn ogystal â phawb o dan 21 oed yn derbyn cynnig £1 Llywodraeth Cymru ddeufis yn gynnar yma yn Rhondda Cynon Taf.
"Mae teithio ar fysiau am bris rhatach yn cynnig llawer o fanteision – yn bennaf, mynd i'r afael â rhwystr economaidd a allai fel arall atal teuluoedd rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hefyd yn annog rhagor o bobl i ymweld ag ardaloedd manwerthu ac atyniadau eraill yn y Fwrdeistref Sirol a gall helpu teuluoedd gyda phwysau costau byw."
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan Lywodraeth y DU, wedi'i dyrannu i Awdurdodau Lleol i helpu i gyflwyno mentrau a fydd yn lleihau costau byw i drigolion. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy fesurau sy'n gwella effeithlonrwydd ynni, ac yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.
Wedi ei bostio ar 06/08/2025