Gwaith yn mynd rhagddo'n dda ar y safle ar Heol Ynysybwl yn ardal Glyn-coch, gyda waliau cadw mawr bellach wedi'u gosod i ail-gynnal y strwythur ar hyd 25 metr o'r clawdd.
Mae'r offer pentyrru mwyaf bellach wedi'i symud oddi ar y safle i alluogi lleihau hyd y lôn sydd ar gau. Bydd hyn yn helpu llif traffig ar gyfer y gwaith sy'n weddill.
Mae ein contractwr bellach yn gosod a phrofi 11 o hoelion pridd dros y pythefnos nesaf.
Bydd y gwaith yna'n symud ymlaen i'w gamau olaf, sef yr elfennau strwythurol terfynol ar ben y wal, ailosod y llwybr troed a'r ffensys a gosod wyneb newydd.
Diolch i chi am eich cydweithrediad parhaus wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen ar y safle.
Wedi ei bostio ar 19/04/23