Mae'r gwaith i raddau helaeth bellach wedi'i gwblhau ar gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llanilltud Faerdref, sydd wedi gwella'r cyfleusterau i gerddwyr mewn gwahanol leoliadau ar heol Bryn y Goron, Ffordd Llantrisant ac ystâd Maes-y-bryn.
Cafodd y gwaith gwella ei wneud dros nifer o fisoedd ac fe'i gwblhawyd yn ddiweddar, ac eithrio mân waith gorffen. Sicrhaodd y Cyngor gyllid sylweddol o £454,800 gan gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru yn 2022/23, sydd wedi'i ategu gan gyllid o £36,000 o Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor.
Mae croesfan sebra newydd wedi'i gosod ar heol Bryn y Goron, sydd wedi'i lleoli ger y gyffordd â Llys Ochr y Bryn (yn y llun, ar y chwith), a newidiadau wedi'u gwneud i gyffordd gyfagos er mwyn gwella diogelwch cerddwyr. Mae’r groesfan yn Ffordd Llantrisant ger Rhodfa'r Bryn hefyd wedi’i huwchraddio i groesfan pâl, gan gyflwyno system goleuadau traffig mwy effeithlon a man croesi wedi’i ehangu i gerddwyr.
Mae gwaith ychwanegol hefyd wedi gwella rhannau o'r llwybr troed mewn gwahanol leoliadau, tra bod nifer o groesfannau anffurfiol wedi'u gosod a'u huwchraddio gan ddefnyddio palmantau botymog lle bo angen. Mae'r goleuadau stryd ar lwybr Hawl Tramwy Cyhoeddus rhwng Ffordd Llantrisant ac Ysgol Gynradd Maes-y-bryn hefyd wedi'u gwella.
Yn olaf, mae mesurau arafu traffig wedi'u cyflwyno ar hyd heol Bryn y Goron i baratoi ar gyfer cyflwyno terfyn cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach eleni.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Diolch i gyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cyngor wedi buddsoddi bron i hanner miliwn o bunnoedd i greu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr yn Llanilltud Faerdref. Targedwyd gwaith mewn sawl lleoliad er budd y gymuned, gan gynnwys teuluoedd sy'n cerdded i'r ysgol gynradd leol ac oddi yno.
“Mae elfennau allweddol o’r cynllun cyffredinol yn cynnwys man croesi diogel newydd ar heol Bryn y Goron, uwchraddio’r groesfan bresennol i gerddwyr yn Ffordd Llantrisant, ac uwchraddio goleuadau stryd ar lwybr troed sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan deuluoedd sy’n cerdded i'r ysgol. Mae gwelliannau i lwybrau troed a mannau croesi anffurfiol hefyd wedi'u cwblhau mewn gwahanol leoliadau drwy'r pentref. Hoffwn ddiolch i drigolion am eu cydweithrediad wrth i'r gwaith uwchraddio yma gael ei gwblhau dros yr wythnosau diwethaf.
“Y cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yma yw’r diweddaraf i ni ei gwblhau yn y blynyddoedd diwethaf, gyda’r gwelliannau yn dilyn cynlluniau lleol tebyg yn Llwynypia, Abercynon, Llantrisant, Cilfynydd a Thonpentre. Mae nodi a darparu cyfleusterau Teithio Llesol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor wrth i ni anelu at annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn rhan o’u harferion beunyddiol – er budd eu hiechyd a'u lles eu hunain a’r amgylchedd.”
Wedi ei bostio ar 06/04/23