Skip to main content

Llongyfarchiadau i ddisgyblion ar Ddiwrnod Canlyniadau Safon Uwch

a-level-results-WELSH

Mae disgyblion chweched dosbarth a myfyrwyr coleg ar draws Rhondda Cynon Taf yn derbyn eu canlyniadau o fore Iau (17 Awst), fel disgyblion ledled Cymru ar Ddiwrnod Canlyniadau Safon Uwch.

Bydd disgyblion Blwyddyn 13 yn mynd i'w hysgol neu goleg i dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch. Mae hefyd yn ddiwrnod pwysig i'r rheiny sy'n derbyn canlyniadau Safon UG, Tystysgrif Her Sgiliau Uwch a chymwysterau galwedigaethol Lefel 3.

Y bore yma mae Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg wedi anfon neges o longyfarchiadau at yr holl ddisgyblion, staff, a rhieni/gwarcheidwaid.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Da iawn i’r holl ddisgyblion ar draws Rhondda Cynon Taf sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw. Dyma benllanw blynyddoedd lawer o waith caled ac ymroddiad i'w hastudiaethau ac addysg.

“Mae'n wych gweld llawer o wynebau hapus yn ein hysgolion heddiw, wrth i ddisgyblion ddathlu eu llwyddiant. Ar ran y Cyngor, llongyfarchiadau a phob lwc ar gyfer eich cam nesaf – p'un ai y byddwch chi'n mynd i fyd addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.

“Ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch, mae hefyd yn bwysig diolch i holl staff ysgolion am eich ymrwymiad amhrisiadwy i addysg ein pobl ifainc bob dydd. Yn olaf, diolch i'r holl rieni a gwarcheidwaid ar draws Rhondda Cynon Taf am gyfrannu at addysg eich plentyn a'ch cefnogaeth i gymuned yr ysgol.”

Wedi ei bostio ar 17/08/23