Skip to main content

Dechrau gwaith atgyweirio ar y wal atal llifogydd yn Sŵn-yr-Afon, Treorci

Swn-yr-Afon and Glynrhondda Street flood walls - Copy

Bydd gwaith atgyweirio sylweddol ar y wal atal llifogydd yn dechrau mewn 2 leoliad ar hyd yr Afon Rhondda, Treorci, yr wythnos nesaf.

Bydd y gwaith cyntaf ar y safle yn Sŵn-yr-Afon yn dechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau dydd Llun, 7 Awst - bydd gwaith pellach yn dechrau yn Stryd Glynrhondda nes ymlaen yn yr haf.

Mae'r Cyngor wedi penodi Alun Griffiths (Contractors) Ltd i gyflawni'r gwaith ac nid oes disgwyl i'r gwaith darfu lawer ar y gymuned leol.

Bydd y cynlluniau'n cynnwys gwaith atal erydu o dan y waliau atal llifogydd, a hynny er mwyn diogelu'r strwythurau ar gyfer y dyfodol.

Mae'r gwaith yma'n cynrychioli buddsoddiad sylweddol, wedi'i gyllido gan Raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith atgyweirio yn dilyn Storm Dennis sy'n cael ei gynnal yn Rhondda Cynon Taf yn 2023/24.

Mae disgwyl i'r ddau gynllun gael eu cwblhau ym mis Hydref 2023, a bydd y Cyngor yn sicrhau bod trigolion yn cael gwybod am gynnydd y cynllun trwy gydol y gwaith.

Diolch i drigolion a'r gymuned ehangach am eich cydweithrediad mewn perthynas â'r gwaith yma.

Wedi ei bostio ar 04/08/2023