Skip to main content

Achlysur ymgynghori cyhoeddus ar yr Ysgol Arbennig 3-19 newydd arfaethedig

school generic

Mae'r Cyngor yn gwahodd ei drigolion i achlysur wyneb yn wyneb ar 22 Awst, sy'n rhan o ymgynghoriad ehangach mewn perthynas â'r ysgol 3-19 oed newydd arfaethedig. Caiff yr achlysur ei gynnal gan swyddogion y Cyngor er mwyn rhannu rhagor o wybodaeth am y cynigion.

Mae'r Cyngor yn cynnig creu ysgol arbennig newydd ar gyfer Rhondda Cynon Taf, a hynny er mwyn ymateb i'r galw cyfredol am leoedd gwag, y mae disgwyl iddo gynyddu ymhellach yn y dyfodol. Ym mis Mehefin 2023, cytunodd y Cabinet y dylai'r Cyngor ddechrau'r ymgynghoriad gofynnol gyda rhanddeiliaid allweddol - gan nodi y dylai'r holl adborth gael ei goladu a'i gyflwyno i'r Aelodau i'w drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus bellach yn mynd rhagddo, a bydd ar agor tan 5pm, ddydd Gwener, 15 Medi. Mae modd i drigolion fwrw golwg ar brif ddogfennu'r ymgynghoriad, dysgu rhagor am y cynnig a dweud eu dweud drwy lenwi arolwg ar-lein. Mae modd dod o hyd i'r holl wybodaeth yma ar y dudalen 'Dod yn rhan o bethau' ar wefan y Cyngor.

Mae'r Cyngor wedi trefnu achlysur wyneb yn wyneb yn rhan o'r gwaith ymgynghori, a hynny er mwyn galluogi’r cyhoedd i drafod y cynnig gyda swyddogion y garfan Addysg a Chynhwysiant, yn ogystal â chyflwyno adborth ffurfiol.

Cynhelir yr achlysur yn Y Pafiliynau, Cwm Clydach, Tonypandy, (CF40 2XX) ddydd Mawrth, 22 Awst. Mae croeso i bawb alw heibio unrhyw bryd rhwng 3pm a 6.30pm, a bydd ein swyddogion yn eich croesawu chi i Siambr y Cyngor. Does dim angen cadw lle ymlaen llaw i ddod i'r achlysur.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn rhoi cyfle i drigolion ddysgu rhagor a dweud eu dweud ar newidiadau arfaethedig i ddalgylchoedd Ysgol Arbennig Park Lane, Ysgol Hen Felin ac Ysgol Tŷ Coch. Mae'n bosibl y byddwn ni'n cyflwyno'r newidiadau yma unwaith y bydd yr ysgol arbennig 3-19 newydd arfaethedig ar agor.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Hoffwn ddiolch i'r trigolion a'r sefydliadau hynny sydd eisoes wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gyfer ein Hysgol Arbennig 3-19 newydd arfaethedig yn Rhondda Cynon Taf. Mae digon o amser ar ôl i ddysgu rhagor a dweud eich dweud. Bydd yr ymgynghoriad yn mynd rhagddo tan 15 Medi.

“Mae’r Cabinet wedi trafod sawl adroddiad gan swyddogion yn ystod y misoedd diwethaf, sy’n amlygu’r pwysau y mae ein hysgolion arbennig yn eu hwynebu wrth i nifer y disgyblion gynyddu ac wrth i anghenion pobl ifainc ddod yn fwy cymhleth. Ym mis Mehefin, dywedodd ein swyddogion fod nifer y disgyblion wedi cynyddu gan 94 ers 2021, ac mae’r Cyngor eisoes wedi ystyried yr holl opsiynau o ran ehangu’r ysgolion cyfredol. Aethon ni ati i ystyried yr ymateb gorau mewn modd trylwyr - a daeth hi'n amlwg mai buddsoddi mewn ysgol newydd sbon ydy'r dewis gorau.

“Mae disgwyl i'r Cyngor a Llywodraeth Cymru fuddsoddi £53.3 miliwn yn yr ysgol newydd ar y cyd, a hynny drwy'r rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Bydd yr ysgol yn darparu amgylchedd o’r radd flaenaf y mae ein pobl ifainc yn ei haeddu – gan gynnwys cyfleoedd gwell o ran mynediad i gyfleusterau, offer ac adnoddau arbenigol. Byddai'r buddsoddiad yma'n golygu bod modd i'r Cyngor ateb y galw ac osgoi lleoli disgyblion mewn darpariaethau y tu allan i'r sir.

“Mae modd i'r cyhoedd ddysgu rhagor am y cynigion ar wefan y Cyngor, ac mae croeso i bawb alw heibio'r achlysur cyhoeddus yng Nghwm Clydach ar 22 Awst. Bydd modd i chi drafod unrhyw agwedd ar y cynigion gyda'r swyddogion, yn ogystal â rhoi adborth ffurfiol. Mae achlysuron o'r fath wedi bod yn boblogaidd ac yn effeithiol o ran datblygu ysgolion eraill yn y gorffennol, felly dyma annog ein trigolion i gymryd rhan."

Byddai ysgol newydd yn sicrhau bod modd i'r Cyngor gyflawni ei rwymedigaethau yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Bydd y Cyngor yn derbyn cyfraniad o 75% tuag at gyfanswm costau'r prosiect o fewn Band B o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd y dadansoddiad casglu data diweddaraf o Ysgolion Arbennig cyfredol Rhondda Cynon Taf ym mis Medi 2022. Mae’r data'n dangos cynnydd yn nifer y disgyblion ag anghenion cymhleth sydd angen cymorth a chymarebau staffio uwch. Roedd hyn yn arbennig o wir yn Ysgol Hen Felin ac Ysgol Tŷ Coch.

Mae lleoliad yr ysgol newydd wedi’i ystyried yn drylwyr drwy broses arfarnu safle, a’r opsiwn a ffefrir yw safle'r Pafiliynau yng Nghwm Clydach. Dyma'r safle mwyaf addas ac mae'n bodloni'r holl feini prawf. Mae'n lleoliad digonol o ran maint, mae mynediad boddhaol i'r lleoliad ac mae'n gyfle datblygu dichonadwy.

Ym mis Mai 2023, trafododd y Cabinet strategaeth ddrafft a oedd yn nodi cynigion o ran swyddfeydd y Cyngor yn y dyfodol. O dan y strategaeth yma, byddai safle'r Pafiliynau yn cael ei wagio a byddai ar gael i'w ddatblygu.

Wedi ei bostio ar 18/08/23