Bydd gwaith trwsio rhan o'r wal gynnal ar Heol Berw, Pontypridd, yn dechrau'n fuan. Fydd y rhan fwyaf o'r cynllun ddim yn tarfu llawer.
Mae'r Cyngor wedi penodi Hammonds Ltd yn gontractwr ar gyfer y gwaith, fydd yn cael ei gynnal dros chwe wythnos o ddydd Iau 17 Awst.
Bydd y cynllun yn cynnwys clirio llystyfiant sy'n tyfu y tu ôl i'r wal ac ar y wal, ailadeiladu rhannau o'r wal a gwaith ailbwyntio.
Fydd dim angen mesurau rheoli traffig a bydd mynediad ar gael i gerddwyr ar y palmant cyfagos.
Serch hynny, bydd byrddau rheoli traffig (Stop/Go) yn cael eu defnyddio'n achlysurol er mwyn cludo nwyddau i'r safle. Dim ond am 15 munud yn ystod cyfnodau llai prysur y bydd y rhain yn cael eu defnyddio.
Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni drwy raglen fawr ar gyfer gwaith atgyweirio yn sgil Storm Dennis yn Rhondda Cynon Taf (2023/24), sy'n cael ei hariannu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.
Mae gwaith trwsio ar wahân hefyd wedi'i gynllunio ar gyfer rhan arall o wal Heol Berw, ymhellach i'r gogledd.
Bydd y gwaith yma'n cael ei gynnal yn ddiweddarach yn yr haf – bydd y Cyngor yn rhannu'r manylion maes o law.
Diolch i drigolion am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 14/08/23