Bydd gwaith atgyweirio'r wal gynnal ger Heol Dinas yn dechrau yr wythnos nesaf - nid yw'r cynllun yn debygol o achosi llawer o aflonyddwch i ddefnyddwyr y ffordd a'r gymuned.
Mae'r wal (gweler y llun) wedi'i lleoli i'r gogledd o gyffordd yr A4058 â Heol Graigddu, ac i'r gogledd o gilfach barcio'r arhosfan bysiau.
Mae'r Cyngor wedi penodi Kordel Contracting i gyflawni'r gwaith atgyweirio dros gyfnod o saith wythnos, gan ddechrau dydd Llun, 7 Awst.
Bydd y gwaith yn cynnwys clirio'r holl lystyfiant yn ogystal ag ailadeiladu rhan o'r strwythur.
Bydd gwaith ailbwyntio'n cael ei gynnal ar y mur canllaw a'r wal gynnal, a bydd y contractwyr yn ailosod y cerrig copa.
Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal trwy gydol y cynllun ar Heol y Ficerdy a bydd rhan fach o'r arhosfan bysiau cyfagos yn cael ei defnyddio ar gyfer safle'r contractwr.
Does dim angen gosod mesurau rheoli traffig ar gyfer y rhan fwyaf o'r cynllun, ac ni fydd llif y traffig ar y brif ffordd yn cael ei effeithio.
Bydd angen defnyddio byrddau Aros/Ewch (Stop/Go) ar adegau er mwyn cau lôn ar Heol Dinas, a hynny er mwyn symud nwyddau i'r safle - ond bydd hyn yn digwydd gyda'r nos ac ni fydd yn para mwy na 30 munud.
Mae'r gwaith yma wedi'i ariannu gan gyllid sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer Strwythurau'r Priffyrdd yn rhan o Raglen Gyfalaf y Priffyrdd ar gyfer 2023/24.
Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith yma.
Wedi ei bostio ar 01/08/23