Skip to main content

Roedd achlysur Cegaid o Fwyd Cymru 2023 yn llwyddiant ysgubol!

BWB stilt 23

Er gwaethaf canslo'r achlysur ar ddiwrnod 1 o ganlyniad i ragolygon y tywydd a oedd yn rhagweld gwyntoedd cryfion a glaw a allai fod wedi difrodi seilwaith, daeth dros 20,000 o drigolion ac ymwelwyr i Barc Coffa Ynysangharad ddydd Sul 6 Awst i fwynhau adloniant am ddim a bwydydd anhygoel!

Eleni roedd dros 50 o werthwyr bwyd yn yr achlysur, ac roedd perfformiadau ac arddangosiadau coginio i'w gwylio. Defnyddiodd corau lleol y safle seindorf sydd newydd gael ei ailwampio er mwyn dathlu canmlwyddiant y parc, yn ogystal ag agor Canolfan Calon Taf, canolfan gymuned ac addysg newydd y parc, yn swyddogol.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor:

Mae achlysur Cegaid o Fwyd Cymru yn uchafbwynt yng nghalendr achlysuron blynyddol y Cyngor. Roedd pawb sydd ynghlwm wrth yr achlysur yn siomedig i wneud y penderfyniad anodd iawn i ganslo diwrnod 1, dyna oedd y penderfyniad iawn o ystyried rhagolygon y tywydd bryd hynny.  Fel y nodwyd ar y pryd, mae diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig wrth gynllunio'n hachlysuron.

Roedd gan nifer o fasnachwyr Cegaid o Fwyd Cymru achlysuron eraill ar yr un penwythnos a gafodd eu canslo hefyd. Serch hynny, daeth pobl Rhondda Cynon Taf i fwynhau a chefnogi'r masnachwyr gwych ar ddiwrnod 2. Gwerthodd rhai o'r masnachwyr eu holl nwyddau o fewn ychydig oriau ac roedden nhw wrth eu boddau ag ymateb y cyhoedd.

Mae Cegaid o Fwyd Cymru yn rhan o nifer o achlysuron blynyddol gwych sy'n cael eu trefnu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, sy'n cynnwys Ogof Siôn Corn ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda a Rasys Ffordd Nos Galan sy'n cael eu cynnal ar Nos Galan yn Aberpennar.  Am wybodaeth am achlysuron sydd ar y gweill, bwriwch olwg yma a dilynwch gyfrifon Be'sy ymlaen @whatsonrct ar Facebook, Twitter ac Instagram i gael y newyddion diweddaraf a lluniau o'n hachlysuron.

Wedi ei bostio ar 08/08/2023