Mae'r cynllun atgyweirio diweddaraf ar gyfer rhan o wal afon a oedd wedi'i difrodi yn Heol Berw, Pontypridd, wedi'i gwblhau yn ddiweddar.
Dechreuodd y Cyngor waith ar ddechrau mis Tachwedd er mwyn atgyweirio'r wal gerrig gyferbyn â Chae Heol Berw (rhwng cyffyrdd yr heol â Theras Lewis a Heol Graig-yr-hesg).
Roedd y cynllun yn cynnwys ailadeiladu rhan fach o'r strwythur – ac mae'r holl waith bellach wedi'i gwblhau gan y contractwr, fel sydd i'w weld yn y llun ar y chwith.
Doedd dim modd defnyddio'r mannau parcio gyferbyn â safle'r gwaith ar Heol Berw yn ystod y gwaith, ond mae modd gwneud hynny eto.
Mae'r cynllun yn dilyn gwaith atgyweirio ar wahân ar ran wahanol o wal yr afon yn Heol Berw eleni, a hynny'n bellach i'r de. Mae'r gwaith sydd wedi'i gwblhau i'w weld yn y llun ar y dde.
Mae'r ddau gynllun wedi cael eu cyflawni yn rhan o raglen ar gyfer gwaith atgyweirio yn dilyn Storm Dennis yn 2023/24, sy'n cael ei hariannu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.
Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith.
Nodwch – bydd cynllun arall ar gyfer rhan ganol o'r wal yn cael ei gwblhau yn yr haf, 2024.
Bydd rhagor o fanylion am y cynllun yma'n cael eu rhannu maes o law ond mae disgwyl i'r gwaith darfu cyn lleied â phosibl.
Wedi ei bostio ar 11/12/23