Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi'r calendr blynyddol o achlysuron ar gyfer 2023.
Y llynedd dychwelodd nifer o ffefrynnau megis Cegaid o Fwyd Cymru a Rasys Ffordd Nos Galan, ac fe ddaeth trigolion ac ymwelwyr yn eu miloedd i ddathlu a mwynhau'r arlwy oedd ar gael.
Yn ôl yr arfer, mae'r calendr yn dechrau gydag Achlysur Ŵy-a-Sbri yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, ac yn gorffen gyda Rasys Ffordd byd-enwog Nos Galan yn Aberpennar ar Nos Galan.
Mae Gŵyl Aberdâr yn dychwelyd yn y Gwanwyn, a bydd tymor yr Haf yn cynnwys Picnic y Tedis a’r achlysur hynod boblogaidd a blasus, Cegaid o Fwyd Cymru. Eleni rydyn ni hefyd yn dathlu canmlwyddiant Parc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd felly cadwch lygad am ddathliadau arbennig ar gyfer y pen-blwydd nodedig hwnnw yn ystod achlysur Cegaid o Fwyd Cymru.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: “Roedd yn wych croesawu achlysuron yn ôl i’n parciau, mannau agored a lleoliadau yn 2022. Mae 2023 yn argoeli i fod yn flwyddyn wych arall ac rydyn ni'n edrych ymlaen unwaith eto i groesawu trigolion ac ymwelwyr a dathlu achlysuron arbennig fel canmlwyddiant Parc Coffa Ynysangharad. Yn ôl yr arfer, mae ein calendr o achlysuron yn amrywiol ac yn llawn achlysuron i bob oed.
Rydyn ni hefyd yn falch iawn o groesawu Nathaniel Cars fel noddwyr achlysuron am yr ail flwyddyn yn olynol."
Byddwn ni'n rhannu gwybodaeth bellach am yr achlysuron yma ar ein cyfryngau cymdeithasol yn y man. Dilynwch @whatsonrct ar Facebook, Twitter ac Instagram i weld y newyddion diweddaraf.
Wedi ei bostio ar 10/02/23