Councillor Andrew Morgan OBE
Mae Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan wedi derbyn OBE gan Dywysog Cymru mewn arwisgiad yng Nghastell Windsor ddydd Mercher 1 Chwefror.
Cyhoeddwyd ym mis Mehefin y llynedd bod y Cynghorydd Morgan, sy'n Aelod Etholedig ar gyfer Aberpennar wedi derbyn OBE yn rhan o Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. Yn anffodus, bu farw'r Frenhines ar 8 Medi 2022.
Yr wythnos yma mae'r Cynghorydd Morgan wedi dod yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) i gydnabod ei Wasanaeth Cyhoeddus.
Mae’r anrhydedd yn dilyn ei arweinyddiaeth gref o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ystod ei gyfnod yn Arweinydd y Cyngor ond, yn bennaf, mae’n cydnabod ei arweinyddiaeth yn ystod y llifogydd difrifol yn 2020, a effeithiodd ar fwy na 1,500 o adeiladau, cartrefi a busnesau ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Daeth pandemig byd-eang Coronavirus COVID-19 yn syth wedi hynny, gan achosi llawer o farwolaethau yn Rhondda Cynon Taf a chan effeithio ar bawb. Drwy gydol yr argyfwng cenedlaethol, roedd y Cynghorydd Morgan wrth y llyw yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, gan hefyd weithio gydag awdurdodau lleol eraill a Llywodraeth Cymru yn Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Yntau wedi'i eni a'i fagu yn Aberpennar, mynychodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE Ysgol Gynradd y Darren-las, Ysgol Gyfun Isaf Bryngolwg ac Ysgol Gyfun Aberpennar cyn dod yn Brentis yn adran dai Cyngor Bwrdeistref Cwm Cynon, cyn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn nes ymlaen.
Safodd e gyntaf yn Ymgeisydd Etholiadol ar gyfer Ward Aberpennar yn 2004 a chafodd ei ethol, gan symud ymlaen i fod yn Aelod o Gabinet ar faterion y Priffyrdd yn 2008 ac yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn 2014, swydd mae e'n parhau i'w gwneud heddiw. Daeth e'n Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddiwedd 2019.
Wrth sôn am ei anrhydedd, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae heddiw yn ddiwrnod arbennig iawn i fi a fy nheulu. Mae’n fraint, ac rwy'n falch iawn o gael yr anrhydedd yma. Mae gen i gymaint o bobl i ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth barhaus, yn bennaf oll, fy nheulu a fy nghydweithwyr.
“I'r llu o bobl sy’n fy nghefnogi, fy ffrind da a Dirprwy Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Maureen Webber, Cabinet y Cyngor, Uwch Arweinwyr y Cyngor, holl staff y Cyngor, Grŵp Llafur Rhondda Cynon Taf, a thrigolion fy ward yn Aberpennar sy'n parhau i fy nghefnogi i fod yn gynrychiolydd iddyn nhw, y mae’r diolch am fy nhaith o fod yn gyn-Brentis gyda’r Awdurdod Lleol, i ddod yn Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, ac hefyd yn Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
"Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn, ond rwy'n falch iawn o'r ffordd mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymateb i'r llifogydd a'r pandemig byd-eang.
“Dyma un o’r cyfnodau anoddaf i fod yn rhan o fyd llywodraeth leol, ond mae hefyd yn un o’r cyfnodau mwyaf gwerth chweil, gan fy mod i bob amser wedi gwneud fy ngorau glas i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a’u helpu mewn unrhyw ffordd y galla i, waeth fo pa mor drist ac anodd yw’r amgylchiadau.
"Heddiw, rydyn ni'n wynebu heriau newydd, ond byddwn ni'n eu goresgyn nhw gyda'n gilydd."
Meddai'rCynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae heddiw yn ddiwrnod arbennig iawn i Arweinydd ein Cyngor, sy'n gweithio'n ddiflino ar gyfer y bobl mae'n eu cynrychioli, sef ward Aberpennar, trigolion Rhondda Cynon Taf, a Chymru gyfan ag yntau'n Arweinydd ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA).
“Mae bob amser wedi bod yn gwbl ymroddedig i wasanaethu’r cyhoedd, ac ar adegau o argyfwng mae bob amser wrth law yn delio â pha sefyllfa bynnag sy'n ein hwynebu – llifogydd, tywydd gaeafol, ac hyd yn oed pandemig byd-eang.
"Mae'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE yn ymroi ei fywyd i wasanaeth cyhoeddus ac mae'r anrhydedd yma'n gydnabyddiaeth o'i holl waith caled. Braint yw cael ei alw’n ffrind ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gydag ef."
Meddai Paul Mee, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: "Mae'r Cynghorydd Andrew Morgan yn arweinydd o'r radd flaenaf. Mae'n angerddol dros yr ardal a'r bobl mae'n eu gwasanaethu, ac mae'n arwain yn urddasol ym mhob sefyllfa.
"Mae ei ddealltwriaeth am lywodraeth leol yn anhygoel, ac mae'r anrhydedd yma'n dystiolaeth o'i waith caled, ei angerdd a'i ymrwymiad."
Wedi ei bostio ar 03/02/23