Skip to main content

Nawr Yw'r Amser Maethu Cymru

Foster W

Adleoli, ymddeol, ailbriodi, neu'n syml iawn, eisiau rhoi yn ôl i'r gymuned leol - mewn cyfres newydd sbon o vlogiau, mae gofalwyr maeth o bob rhan o Gymru wedi dod at ei gilydd i archwilio’r rhesy mau, profiadau bywyd a newidiadau a arweiniodd at ddod yn ofalwyr. 

Bydd y gyfres chwe phennod yn galluogi darpar ofalwyr maeth i gydnabod y profiadau bywyd gwerthfawr sydd ganddynt eisoes, a allai eu helpu i ddod yn ofalwyr maeth cyflawn a chefnogol yn eu cymunedau. 

Mae’r gyfres wedi’i chynhyrchu gan Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu dielw, sy’n cynnwys y 22 o dimau awdurdodau lleol yng Nghymru. 

Bydd y penodau’n cael eu rhyddhau’n wythnosol ar wefan Maethu Cymru, cyfryngau cymdeithasol a sianeli YouTube, ac yn darparu sgwrs onest ac agored rhwng gofalwyr maeth o bob cefndir.

Recordiwyd y sgyrsiau ym mis Rhagfyr 2022, gyda’r newyddiadurwr a’r cyflwynydd profiadol Mai Davies yn cynnal y sgyrsiau. 

Mewn un bennod arbennig o deimladwy mae Cath ei bod yn ymwybodol bod gan rai pobl syniad yn eu pen o sut olwg sydd ar faethu. 

“Rwy’n meddwl bod canfyddiad pobl o fod yn ofalwr maeth yn rhywbeth nad ydyn nhw. 

“Mae llawer o bobl yn dweud pan fyddwch chi allan, 'Byddwn i wrth fy modd yn bod yn ofalwr maeth ond dwi ddim yn siŵr' ac rydw i bob amser yn dweud, ffoniwch i ofyn, fydd neb byth yn curo ar eich drws yn gofyn os ydych am fod yn ofalwr maeth. 

“Mae rhai o’r plant hyn wedi cael profiadau erbyn eu bod yn 5 oed na fydd pobl byth yn eu cael yn eu bywydau, a’r cyfan sydd ei angen yw cael yr empathi, y ddealltwriaeth a’r agwedd anfeirniadol honno.” 

Yn y cyfamser dechreuodd Jenny pan oedd yn 66 oed ar ôl i'w gŵr farw, ar ôl meddwl i ddechrau y gallai fod yn rhy hen. Nawr, mae Jenny yn meddwl bod gan ei hoedran fanteision wrth faethu. 

“Lle dw i’n byw, bydd y plant ar y stryd yn chwarae gyda’r plant sy’n dod ata i, a byddan nhw’n dweud, ‘ai dy Nain di yw honna?’ Ac wrth gwrs, maen nhw’n dweud ie achos mae’n haws, does dim rhaid iddynt ddweud; wel na mewn gwirionedd hi yw fy ngofalwr maeth ac mae hi'n gofalu amdana i, oherwydd mae hynny'n lletchwith.

“Maen nhw'n fy ngweld i fel rhyw fath o ffigwr tebyg i nain, ac rydw i'n eu difetha nhw dipyn oherwydd dyna beth yw pwrpas mam-gu. 

“Dydy pobl ddim yn deall lefel y gefnogaeth, nid yw’n ymwneud â gweithwyr cymdeithasol yn eich cefnogi yn unig, mae’n ymwneud â gofalwyr maeth eraill yn eich cefnogi oherwydd eich bod yn gwneud ffrindiau yn y gymuned. 

“Bydd pobl eraill sydd â phrofiadau gwahanol yn gallu eich cynghori ar sut i weithio gyda phlant penodol oherwydd eu bod wedi cyfarfod â phlant tebyg o’r blaen.” 

Dywedodd Pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope: “Mae gennym ni ofalwyr maeth o bob cefndir yn gofalu am ein plant o fewn Maethu Cymru.

“Rydym angen pobl o wahanol gefndiroedd, diwylliannau ac sydd ag amrywiaeth o brofiadau bywyd i faethu oherwydd mae gennym ystod amrywiol o blant sydd angen y gofal, y gefnogaeth a’r cariad hwnnw o fewn ein hawdurdodau lleol - plant sydd angen y cyfle i ffynnu ac aros yn eu cymunedau lleol eu hunain. Dyna hanfod maethu ar gyfer eich awdurdod lleol. 

“P'un a ydych wedi meddwl am faethu yn ddiweddar neu am y deng mlynedd diwethaf, byddem wrth ein bodd pe baech chi’n cysylltu â'ch tîm Maethu Cymru lleol. Byddwn yn eich helpu i ystyried ai nawr yw'r amser i chi a byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd ar hyd eich taith faethu." 

I ddarganfod mwy am faethu yn RhCT, ewch i  

I drefnu cyfweliadau gyda chynrychiolwyr o Maethu Cymru neu am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch Nawr yw’r Amser, cysylltwch â 

Wedi ei bostio ar 02/02/23