Mae'r Cabinet wedi cytuno ar fuddsoddiad mawr mewn pedwar llety gofal o'r radd flaenaf i foderneiddio gwasanaethau gofal preswyl a diwallu anghenion pobl wrth iddyn nhw newid. Bydd newid i'r cynigion a oedd yn rhan o'r ymgynghoriad yn cynyddu capasiti'r datblygiad newydd yng Nglynrhedynog.
Ddydd Mawrth, 28 Chwefror, roedd Aelodau'r Cabinet yn ystyried opsiynau a oedd yn cynnwys buddsoddiad cyfalaf â gwerth rhagamcanol o £60 miliwn mewn pedwar llety newydd yn Nhreorci, Glynrhedynog, Aberpennar a Phentre'r Eglwys, yn ogystal â chadw pum cartref gofal y Cyngor. Dyma'r pum opsiwn sydd wedi eu cytuno ac a fydd yn cael eu gweithredu:
- Opsiwn 1 – cadw'r ddarpariaeth gwasanaeth bresennol mewn pump o gartrefi gofal presennol y Cyngor – Cwrt Clydach yn Nhrealaw, Tŷ Pentre, Tegfan yn Nhrecynon, Cae Glas yn y Ddraenen Wen a Pharc Newydd yn Nhonysguboriau.
- Opsiwn 2 – darparu llety newydd gyda 40 o fflatiau gofal ychwanegol ac 20 o welyau dementia preswyl yn Nhreorci – bydd y datblygiad yma'n cael ei archwilio gyda Linc Cymru a'r bwrdd iechyd. Bydd e'n cael ei leoli ar dir ger Cartref Gofal Ystrad Fechan. Mae'r cartref gofal ar gau dros dro heb unrhyw breswylwyr, a bydd e’n cael ei ddatgomisiynu'n barhaol.
- Opsiwn 3 – darparu llety newydd gydag 25 o fflatiau gofal ychwanegol a 15 gwely dementia preswyl yng Nglynrhedynog – bydd y datblygiad yma'n cael ei archwilio gyda Linc Cymru. Bydd e'n cael ei leoli ar dir ger cartref gofal presennol Ferndale House, a fydd yn cael ei ddatgomisiynu pan fydd y cyfleuster newydd yn cael ei ddatblygu. Ychwanegodd y Cabinet bum fflat gofal ychwanegol (25 yn hytrach nag 20) a phum gwely dementia preswyl (15 yn hytrach na 10) at y cynllun.
- Opsiwn 4 – darparu llety newydd gyda 25 o fflatiau gofal ychwanegol a 15 o welyau dementia preswyl yn Aberpennar – bydd y datblygiad yma'n cael ei archwilio gyda Linc Cymru. Bydd e'n cael ei leoli ar dir ger Cartref Gofal Troed-y-rhiw, a fydd yn cael ei ddatgomisiynu pan fydd y cyfleuster newydd wedi ei adeiladu.
- Opsiwn 5 – ailfodelu'r llety i ddarparu gofal i bobl ag anableddau dysgu pan fyddan nhw'n oedolion, ym Mhentre'r Eglwys. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy ailddatblygu Cartref Gofal presennol Garth Olwg. Bydd y cartref gofal yn cael ei ddatgomisiynu pan fydd lleoliadau addas yn cael eu canfod ar gyfer ei breswylwyr, mewn cartref o'u dewis sy'n diwallu eu hanghenion sydd wedi'u hasesu.
Mae'r cynigion wedi'u cyflwyno'n rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i foderneiddio a gwella'r ddarpariaeth gofal i oedolion, gan ymateb i ddisgwyliadau newidiol a phoblogaeth sy'n heneiddio. Mae pobl bellach yn byw gartref yn hirach ac yn mynd i mewn i gartrefi gofal yn hwyrach mewn bywyd ag anghenion mwy difrifol. Does dim modd i'r ddarpariaeth bresennol ddiwallu'r angen am ofal dementia a gofal seibiant, ac ar yr un pryd, mae'r galw am gartrefi gofal 'traddodiadol' wedi gostwng yn gyson.
Cafodd penderfyniad y Cabinet ddydd Mawrth ei lywio gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, a oedd wedi ystyried y cynigion ar 27 Chwefror, yn ogystal ag adborth yn dilyn ymgynghoriad trylwyr â phreswylwyr cartrefi gofal, eu teuluoedd nhw, eiriolwyr, staff, a'r cyhoedd yn gyffredinol (rhwng 12 Rhagfyr 2022 a 27 Ionawr 2023).
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae'r Cabinet wedi cytuno ar fuddsoddiad mawr mewn gofal preswyl a fydd yn cynnwys buddsoddi £60 miliwn mewn pedwar llety gofal newydd yn Nhreorci, Glynrhedynog, Aberpennar a Phentre'r Eglwys. Rydyn ni'n gwybod fod anghenion pobl yn newid o angen cartrefi gofal 'traddodiadol' i ofal mwy cymhleth, a bydd y buddsoddiad yma'n ein helpu ni i addasu ein darpariaeth ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.
"Bydd y buddsoddiad yn ein helpu ni i ddisodli adeiladau hŷn gyda lletyau mwy priodol gyda chyfleusterau modern a fyddai'n well i drigolion fyw ynddyn nhw. Rydyn ni wedi gweld pa mor werthfawr yw'r cynlluniau gofal ychwanegol newydd gwych yn Aberaman a'r Graig – am y cymorth 24 awr y dydd maen nhw'n ei roi er mwyn diwallu anghenion pobl, yr annibyniaeth maen nhw'n ei chynnig i'w preswylwyr, yr ymdeimlad o gymuned maen nhw wedi'i greu ym mhob adeilad, a'r amgylcheddau modern maen nhw'n eu cynnig.
"Cafodd yr opsiynau buddsoddi eu llywio gan ymgysylltiad trylwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf i wrando ar farn pobl ar y ddarpariaeth gofal bresennol a'u disgwyliadau nhw am y dyfodol. Roedd preswylwyr cartrefi gofal, teuluoedd, staff, a'r cyhoedd wedyn wedi dweud eu dweud ar y cynigion penodol mewn ymgynghoriad arall diweddar.
"Rydw i'n falch bod cefnogaeth eang i'r cynlluniau, sy'n cydnabod y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd ym mhob cymuned i greu cyfleusterau modern, addas i'r diben.
"Rhaid nodi bod sgiliau ac ymroddiad staff y cartref yn amlwg yn cael eu gwerthfawrogi gan breswylwyr. Mae cefnogi ein staff ni hefyd yn hollbwysig, a dyw'r cynlluniau yma ddim yn golygu unrhyw ddiswyddo gorfodol. Hoffwn i ddiolch unwaith eto i'n staff ni am eu hymrwymiad heb ei ail i'w swyddi nhw.
"Mae'r Cabinet bellach wedi cytuno ar y cynigion, a bydd swyddogion yn bwrw ymlaen i'w gweithredu nhw'n ofalus. Mae'n wych bod modd i ni fuddsoddi mewn pedwar cyfleuster newydd sbon er gwaethaf yr heriau ariannol sy'n wynebu awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Mae'n dangos ein hymrwymiad ni i flaenoriaethu gofal preswyl fel maes buddsoddi allweddol er budd pobl hŷn, nawr ac yn y dyfodol."
Wedi ei bostio ar 28/02/23