Councillor Andrew Morgan OBE, Leader of Rhondda Cynon Taf County Borough Council
Rydyn ni’n agosáu at yr amser hynny o’r flwyddyn pan mae gofyn i Gynghorau ledled Cymru gyflwyno cyllideb gytbwys, ac mae'n bwysig rhannu'r newyddion diweddaraf â thrigolion lleol ynglŷn â rhai o'r mesurau rydyn ni'n eu hystyried ar gyfer 2023/24.
Dyma fydd cyllideb gyntaf y Cyngor newydd yn dilyn etholiadau mis Mai ac rydyn ni'n wynebu heriau mawr. Er gwaethaf y cyllid ychwanegol rydyn ni'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg a gofal cymdeithasol, rydyn ni'n dal i fod mewn sefyllfa anodd iawn.
Mae'r sefyllfa yn Wcráin, sgil effeithiau COVID-19, yr argyfwng costau byw parhaus, costau ynni, chwyddiant a’r galw uwch am ein prif wasanaethau wedi cyfuno i greu sefyllfa heriol iawn.
Mae'r Cyngor yn wynebu diffyg yn y gyllideb gwerth £38.8 miliwn. Mae’n ofyniad cyfreithiol i leihau'r diffyg yma ac mae'r ffigur llawer yn uwch na'r diffyg gwerth £24 miliwn a wynebodd y Cyngor yn ystod cyfnod mwyaf heriol y cyni cyllidol. Mae ansicrwydd pellach o ran y cynnydd yng nghostau ynni - rydyn ni'n rhagweld cynnydd gwerth 355% ar draws ein hadeiladau a gwasanaethau - a pha gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU i liniaru'r sefyllfa.
Rydyn ni'n effro iawn i effeithiau'r argyfwng costau byw ar deuluoedd, aelwydydd, busnesau a chymunedau ac rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi rhoi rhagor o bwysau ar drethdalwyr lleol.
Yn seiliedig ar ymgynghoriadau lleol gan Gynghorau lleol ledled Cymru, rydyn ni'n rhagweld y bydd RhCT yn cyflwyno cynnydd gwerth 3.5% yn lefelau Treth y Cyngor. Mae hyn ymhlith y cynnydd isaf yng Nghymru. Bydd hyn yn dilyn y tymor diwethaf lle cyflwynodd RhCT y cynnydd isaf o bob un o’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn cynnig codi ffioedd a chostau ar gyfradd sy'n sylweddol is na lefel chwyddiant er mwyn diogelu defnyddwyr gwasanaeth.
Mae cam cyntaf ein hymgynghoriad ar y gyllideb wedi dod i ben yn ddiweddar ac roedden ni'n falch o weld bod trigolion yn cytuno â'n dull ni ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae ein trefnau ariannol cadarn oedd ar waith yn ystod tymor diwethaf y Cyngor a thu hwnt yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa dda i wynebu'r heriau yma ac i fwrw golwg ar sut rydyn ni'n gweithredu i ddod o hyd i'r arbedion angenrheidiol, a hynny fel sefydliad corfforaethol.
Mae ein dulliau rheoli gofalus yn golygu ein bod ni wedi osgoi gorfod gwneud y newidiadau sylweddol i wasanaethau sydd wedi’u cynnig gan Gynghorau eraill, gan ein galluogi ni i ddarparu cyllideb gytbwys ar gyfer 2023/24 heb ddiswyddiadau gorfodol.
Unwaith eto rydyn ni'n canolbwyntio ar ddiogelu ein prif wasanaethau, megis Addysg. Mae cyllideb ein hysgolion wedi cynyddu 28% dros y 10 mlynedd diwethaf, ac yn rhan o gynigion y gyllideb ar gyfer 2023/24 mae'r Cyngor yn bwriadu ariannu'r holl bwysau sydd ar ysgolion o ran tâl, costau ynni, newidiadau yn nifer y disgyblion ac Anghenion Dysgu Ychwanegol trwy ddarparu cyllid ychwanegol gwerth £13.7 miliwn.
Rydw i’n annog ein trigolion i fynegi eu barn a'n helpu ni i lywio dyfodol y Cyngor trwy gymryd rhan yn ail gam yr ymgynghoriad ar y gyllideb. Mae modd dod o hyd i'r ymgynghoriad ar wefan Dewch i Siarad RhCT hyd at ddydd Llun 6 Chwefror.
Wedi ei bostio ar 03/02/2023