Woody's Lodge
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i gefnogi ei gymuned Lluoedd Arfog drwy groesawu lansiad Canolfan Cymorth newydd i Gyn-filwyr.
Mae'n bleser gan y Cyngor gyhoeddi'r cymorth ychwanegol yma i gyn-filwyr a chymuned y Lluoedd Arfog, ar y cyd â Woody's Lodge. Bydd Canolfan Cymorth newydd i Gyn-filwyr Woody's Lodge ar agor ym Mhafiliwn Bowlio Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, bob dydd Sadwrn rhwng 10am a hanner dydd.
Mae croeso i bob aelod o'n cymuned Lluoedd Arfog ddod i'r lansiad ddydd Sadwrn yma am 10am, a bob dydd Sadwrn arall.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: "Mae'n bleser gyda ni groesawu Woody's Lodge i'n Bwrdeistref Sirol i’n helpu ni i gefnogi ein cymuned Lluoedd Arfog rydyn ni'n ei gwerthfawrogi'n fawr.
"Mae ein Gwasanaeth Cymorth i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog wrth law 52 wythnos y flwyddyn yn cynnig cymorth ac arweiniad i'n cyn-filwyr a’u teuluoedd, gyda nifer cynyddol yn mynychu ein cyfarfodydd grŵp wythnosol ledled Rhondda Cynon Taf.
“Mae’n hynod bwysig ein bod ni'n cadw’r cymunedau cyn-filwyr unigryw yma gyda’i gilydd gan eu bod nhw'n rhannu cymaint o brofiadau ac o ganlyniad i’w gwasanaeth milwrol, wedi gwneud ffrindiau am oes.
"Mae Woody's Lodge hefyd yn gwneud gwaith arbennig i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, a dyna pam ei bod yn anrhydedd enfawr bod yr elusen yma’n gweithio ochr yn ochr â ni.”
Woody’s Lodge
Yn 2012, fe gollodd y Môr-filwr Brenhinol ac aelod o'r Gwasanaeth Cwch Arbenigol Elitaidd, Paul 'Woody' Woodland, ei fywyd mewn ymarfer hyfforddiant, a hynny cyn yr oedd i fod dychwelyd am ail daith ddyletswydd yn Afghanistan.
Roedd Woody, a gafodd ei eni a'i fagu ym Mhenarth, erioed wedi bod â'i fryd ar fod yn Fôr-filwr, ac unwaith y byddai ei yrfa yn y Lluoedd Arfog wedi dod i ben, ei freuddwyd oedd adeiladu caban pren y byddai modd iddo fyw'n heddychlon ynddo gyda'i deulu.
Mae Woody's Lodge, a gafodd ei sefydlu yn dilyn ei farwolaeth, yn ganolfan gymdeithasol sy'n arwain cyn-filwyr at y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i ailgysylltu â'u teuluoedd a'u cymunedau.
Gweledigaeth Woody's Lodge yw creu gofod deniadol i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a’r Gwasanaethau Brys, lle gallan nhw dderbyn cymorth a chyngor arbenigol, yn ogystal â chyfle i gysylltu â ffrindiau a theulu, hen a newydd.
Daeth breuddwyd Woody o fod yn berchen ar gaban pren ar ôl ei wasanaeth yn ysbrydoliaeth i Woody’s Lodge. Daeth hyn yn wirionedd ar ôl dwy flynedd o gynllunio, a hynny gyda diolch i gefnogaeth gan y Llynges Frenhinol yng Nghymru, y Lluoedd Wrth Gefn a Chymdeithasau Cadetiaid.
Mae Woody's Lodge a Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor wrth law i gynnig cymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd eu hangen fwyaf. Dyma'r pwynt cyswllt cyntaf i lawer o gyn-filwyr a'u teuluoedd.
Mae grwpiau i gyn-filwyr yn cwrdd yn wythnosol yng Nghwm Rhondda, Rhydfelen ac yn Aberpennar ac yn cael eu cefnogi gan Wasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor. Mae'r Ganolfan Cymorth i Gyn-filwyr newydd sy'n cael ei chynnal ym Mhontypridd bob bore Sadwrn wedi’i hanelu at y rheiny sydd ddim yn gallu mynychu’r cyfarfodydd grŵp oriau dydd oherwydd ymrwymiadau teuluol, gwaith neu gyfyngiadau teithio.
Mae modd i'r grwpiau gynnig ystod eang o gymorth am faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma, Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid, Cyflogaeth a llawer yn rhagor.
Am ragor o fanylion neu gyngor a chymorth cyfrinachol a diduedd AM DDIM, cysylltwch â Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor. Ffoniwch 07747 485 619 neu anfon e-bost i
Mae Woody's Lodge yn coffáu Paul Woodland, ei fywyd a'i ymrwymiad i ddyletswydd a gwasanaeth
Wedi ei bostio ar 13/02/2023